Lefelau dysgu
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael ar bump lefel: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi. Felly os dych chi'n ddechreuwyr neu'r siaradwr profiadol, bydd cwrs i chi!
Darllenwch am y lefelau ar y dudalen yma.
Mae cyrsiau ar gael yn ystod y dydd a gyda'r nos. Gallwch ddysgu wyneb-yn-wyneb mewn dosbarth yn eich cymuned, neu ddysgu mewn dosbarth rhithiol, gan ddefnyddio Zoom neu Teams.
Chwilio am gwrs
Defnyddiwch ein chwilotwr cyrsiau i ddod o hyd i gwrs.
18-25 oed?
Os dych chi'n 18-25 oed, byddwch yn gallu dilyn cwrs am ddim. Wrthi i chi gofrestru a nodi eich dyddiad geni, bydd disgownt awtomatig.