Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

EIN TÎM, EIN HIAITH

Dysgu Cymraeg, gyda’n gilydd
Croeso

Mae'n haws nag erioed i gefnogwyr pêl-droed Cymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Gallwch ddysgu ar-lein neu ymuno gyda un o'n cyrsiau newydd ym mis Ionawr - cliciwch ar y botymau isod am fwy o fanylion.

Ein tîm, ein hiaith - ewch amdani!

 

Pêl-droed i deuluoedd

Mae digon o gyfleoedd i deuluoedd fwynhau bwrlwm y Gymraeg a Chwpan y Byd, gyda llu o adnoddau arbennig wedi'u paratoi gan griw Mudiad Meithrin.

Beth am ddechrau gyda'r stori liwgar yma ar gyfer plant ifanc?

Mwynewch y llyfryn gweithgareddau yma, ac am fwy o fanylion, ewch i wefan Mudiad Meithrin.

Mwy o adnoddau

Mae llu o adnoddau hyrwyddo, gan gynnwys posteri digidol a negeseuon a dolenni ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ar gael i chi eu defnyddio.  Cliciwch yma i gael ein pecyn hyrwyddo.

Os dych chi'n mwynhau'r gemau ar S4C, efallai bydd yr eirfa yma'n ddefnyddiol hefyd!