Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ystadegau Dysgu Cymraeg 2019-2020

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Mae’r data sy'n cael eu casglu gan y Ganolfan yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol.

Mae data 2019-2020 yn cynnwys gweithgaredd y sector yn ystod cyfnod y pandemig. Effeithiwyd gweithgaredd y maes wrth i ddysgu wyneb yn wyneb ddod i ben yn ystod Mawrth 2020. Mae'n debygol bydd yr effaith yn parhau yn data 2020-2021. Bu toriad i gyllid cynllun Cymraeg Gwaith yn Ebrill 2020 ac ni fu'n bosib cynnig cyrsiau dwys ar bob lefel ond llwyddwyd i gynyddu'r dewis o gyrsiau ar lefel Mynediad.

Cyhoeddi Data 2019-2020

Dyma’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-2020

  • Mae'r ystadegau yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2019 a 31 Gorffennaf 2020.
  • 2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
  • Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn rhedeg o Ebrill i Fawrth. At bwrpas y cyhoeddiad cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2020 yn unig.
  • Mae prosiect cenedlaethol Cymraeg Gwaith wedi ei gynnwys yn llawn am y tro cyntaf yn niferoedd 2019-2020.

 

Lawrlwytho: Open Data Source

Data 2019-20

 

Cyfnod Data
1 Awst 2019 - 31 Gorffennaf 2020

Dyddiad cyhoeddi
Dydd Mercher 31 Mawrth 2021

Nifer y dysgwyr unigryw

Dysgwyr unigryw

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.

  • Yn 2017-2018, roedd 12,680 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2018-2019, roedd 13,260 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2019-2020, roedd 17,505 o dysgwyr unigryw, cynnydd o 32% o gymharu â 2018-2019.
  • Mae prosiect cenedlaethol Cymraeg Gwaith wedi ei gynnwys yn llawn am y tro cyntaf yn niferoedd 2019-2020.

Nifer y gweithgareddau dysgu

newid i gweithgareddau dysgu

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

  • Cymerodd dysgwyr 2019-2020 ran mewn 30,115 o weithgareddau dysgu, cynnydd o 48% o gymharu â 2018-2019.
  • Mae prosiect cenedlaethol Cymraeg Gwaith wedi ei gynnwys yn llawn am y tro cyntaf yn niferoedd 2019-2020.

Lefelau Dysgu

lefelau

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel.

  • Yn 2017-2018 roedd 51% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Mynediad yw'r lefel gychwynnol i ddechreuwyr. Roedd 18% ar lefel Sylfaen a 31% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Yn 2018-2019 roedd 51% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Roedd 17% ar lefel Sylfaen a 32% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Yn 2019-2020 roedd 68% o ddysgwyr ar lefel Mynediad.  Roedd 11% ar lefel Sylfaen a 19% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd). 
  • Bu toriad i gyllid cynllun Cymraeg Gwaith yn Ebrill 2020 ac ni fu'n bosib cynnig cyrsiau dwys ar bob lefel ond llwyddwyd i gynyddu'r dewis o gyrsiau ar lefel Mynediad.

Oed dysgwyr

oed

Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2019-2020, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2019.

  • Mae 15,015 o ddysgwyr 2019 - 2020 o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed, sydd yn 86% o'r holl ddysgwyr. 
  • Mae dysgwyr yn yr ystod oedran 16-24 wedi cynnyddu 5% o'i gymharu â 2018-19.