Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyhoeddi Data 2018-19

Ystadegau Dysgu Cymraeg

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Mae’r data sy'n cael eu casglu gan y Ganolfan yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol. 

 

Cyhoeddi Data 2018-2019

Dyma’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-2019

  • Mae'r ystadegau yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2018 a 31 Gorffennaf 2019.
  • 2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
  • Yn ogystal â'r mathau o gyrsiau a ystyrir yn 2017-2018, mae prosiectau cenedlaethol Cymraeg Gwaith a Chlwb Cwtsh wedi eu cynnwys yn niferoedd 2018-2019.
  • Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn rhedeg o Ebrill 2019 i Fawrth 2020. At bwrpas y cyhoeddiad cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2019 yn unig.

Lawrlwytho: Open Data Source

Data 2018-19

Cyfnod Data
1 Awst 2018 - 31 Gorffennaf 2019

Dyddiad cyhoeddi
Dydd Mawrth 31 o Fawrth 2020

 

Nifer y dysgwyr unigryw

niferoedd 2018-19

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.

  • Yn 2017-2018, roedd 12,680 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2018-2019, roedd 13,260 o ddysgwyr unigryw, cynnydd o 5% o gymharu â 2017-2018

 

Nifer y gweithgareddau dysgu

gwiethgareddau 2018-19

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

  • Cymerodd dysgwyr 2018-2019 ran mewn 20,330 o weithgareddau dysgu, cynnydd o 4% o gymharu â 2017-2018.

 

Lefelau Dysgu

Lefel Dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel

  • Yn 2017-2018 roedd 51% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Mynediad yw'r lefel gychwynnol i ddechreuwyr. Roedd 18% ar lefel Sylfaen a 31% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).  
  • Yn 2018-2019 roedd 51% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Mynediad yw'r lefel gychwynnol i ddechreuwyr. Roedd 17% ar lefel Sylfaen a 32% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd), cynnydd o 1% o gymharu â 2017-2018.

 

Dwyster y dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel o ddwyster. Mae 'dwyster' yn cael ei ddiffinio yn ôl yr oriau cyswllt dan arweiniad tiwtor. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i’r dysgwyr ddewis y cwrs mwyaf addas. 

  • Yn 2018-2019, darparodd 10% o’r cyfleoedd dysgu dros 110 awr, gostyngiad o 2% o gymharu â 2017-2018.

 

Oed Dysgwyr

oed dysgwyr 2018-19

Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2018 - 2019, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2018. Dyma'r flwyddyn gyntaf i oed dysgwyr gael ei gyhoeddi. 

  • Mae 10,555 o ddysgwyr 2018 - 2019 o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed, sydd yn 80% o'r holl ddysgwyr.