Cyfnod Data: 1 Awst 2023 - 31 Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Iau 27 Mawrth 2025, 9:30yb
Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).
Dechreuodd y Ganolfan gyhoeddi data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018.
Mae'r data a gyhoeddir yn cynnwys gwybodaeth am holl waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith Dysgu Cymraeg wyneb yn wyneb a rhithiol yn y gymuned, cynllun Cymraeg Gwaith sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i weithluoedd, cynllun Cymraeg yn y Cartref sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i deuluoedd, Cynllun Ymlaen gyda'r Dysgu Pobl Ifanc sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i bobl ifanc 16-25 oed a Cynllun y Gweithlu Addysg, sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i weithlu'r Sector Addysg. Mae data 2023-24 hefyd yn cynnwys darpariaeth o fath wahanol i'r Ganolfan, sef darparu cyfleoedd codi hyder i siaradwyr Cymraeg di-hyder.
Mae’r data hefyd yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu, gan gynnwys dysgu wyneb yn wyneb, dysgu rhithiol, dysgu cyfunol a hunan-astudio.
Cyfnod Data: 1 Awst 2023 - 31 Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Iau 27 Mawrth 2025, 9:30yb
Dyma gyhoeddiadau blaenorol ystadegau Dysgu Cymraeg.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol. Wrth gyhoeddi ein data, byddwn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
Beth yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau?
Mae'r cod yn cyflwyno fframwaith er mwyn sicrhau bod ystadegau yn ddibynadwy, o ansawdd ac yn werthfawr.
Mae'r cod wedi ei seilio ar yr egwyddorion hyn gan osod y gweithdrefnau angenrheidiol er mwyn eu sicrhau.
Trwy gydymffurfio â'r cod, gall defnyddwyr yr ystadegau ymddiried yn y wybodaeth a gynhyrchir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
EGWYDDORION
DIBYNADWYEDD - Ymddiriedaeth yn y sefydliadau a'r rhai sy'n cynhyrchu ystadegau a data
ANSAWDD - Data a dulliau sy'n sicrhau ystadegau o ansawdd
GWERTH - Ystadegau sy'n bodloni angen cymdeithas am wybodaeth