Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arholiadau Cymraeg Gwaith

Sut i gofrestru?

Dyddiadau Arholiadau 2022

Beth yw'r gost?

Llyfrynnau i ymgeiswyr 2022

Mae'r llyfrynnau isod yn amlinellu'r profion Siarad ar-lein yn unig ar gyfer arholiad mis Ionawr. 

Ar y tudalennau hyn mae gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau mae CBAC yn eu darparu i'r sector Dysgu Cymraeg. 

Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  

Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf. 

Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop. 

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2