Cyrsiau Codi Hyder Cymraeg Gwaith
Canfu ymchwil diweddar fod canran arwyddocaol o'r rheiny sy'n medru'r Gymraeg yn peidio â'i defnyddio oherwydd diffyg hyder. Amcan y Cyrsiau Codi Hyder, sy'n newydd ar gyfer Cymraeg Gwaith ar gyfer 2021-22, ydy newid arferiad craidd a chodi hyder siaradwyr anfoddog fel eu bod yn defnyddio'r Gymraeg pan fyddent fel arfer yn defnyddio'r Saesneg. Bydd y math newydd hwn o gwrs yn cynnwys sesiynau sy'n cyflwyno 12 awr o oriau cyswllt cychwynnol. Bydd y tiwtor yn cytuno ar gynllun gweithredu unigol gyda phob mynychwr cwrs, i'w cyflawni erbyn y sesiwn ddilynol. O ganolbwyntio ar godi hyder wrth ymgymryd â thasgau penodol, e.e. ysgrifennu ebost, paratoi at bwyllgor penodol, neu gyfarfod, bydd y sesiynau yn cymell defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Mae'r math hwn o gwrs ar gael i gyflogwyr sy'n cefnogi nifer o ddysgwyr i ddysgu Cymraeg drwy'r Cynllun Cymraeg Gwaith.
