Dilyn, cysylltu a dysgu ar-lein
-
1
Dych chi’n defnyddio YouTube? Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sianel YouTube.
-
2
Mae’r sianel yn darparu gwybodaeth am gyrsiau, adnoddau, y cynllun Cymraeg Gwaith, cyngor ar sut i gefnogi dysgwyr a llawer mwy.
Syniadau gwrando, gwylio a darllen
Beth am wrando ar bodlediad Dysgu Cymraeg, gwylio stori-fideo Amdani, neu darllen blogs ar-lein?
Podlediadau
Dydd Miwsig Cymru: Rhys Meirion
Rhiannon Norfolk, dysgwr a thiwtor gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, sy’n holi’r canwr a’r cyflwynydd Rhys Meirion.
Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg: Manon Steffan Ros
Y ddysgwraig Gosia Rutecka sy’n holi’r awdures Manon Steffan Ros am ei gwaith.
*Ar gael ar blatfformau ffrydio poblogaidd.
Blogs
Liz Learns Welsh
Ar hyn o bryd mae Liz Day yn astudio gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Darllenwch am ei phrofiadau yn dysgu Cymraeg yn y blog hwn.
Sôn am Lyfra'
Mae Sôn am Lyfra' yn darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Bethan Gwanas yn mwydro am lyfrau
Mae'r awdur a'r tiwtor Cymraeg, Bethan Gwanas, yn adolygu pob math o lyfrau ar ei gwefan. Dilynwch y ddolen i ddarllen mwy.
Straeon-fideo
Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol restr chwarae ar YouTube o straeon-fideo y gyfres boblogaidd i ddysgwyr, Amdani.
*Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y gyfres, ac am restr ddarllen.
Rhestr chwarae Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg