Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ar Lafar - Diolch!

Ar Lafar - Diolch!

Daeth dros 600 o ddysgwyr i ŵyl newydd o'r enw 'Ar Lafar' a gynhaliwyd ar bedwar safle ledled Cymru ar 22 Ebrill: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Nod yr ŵyl, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, oedd rhoi cyfle i ddysgwyr a’u teuluoedd gymdeithasu a defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar.

Roedd gwahanol weithgareddau ar gael ymhob safle, o deithiau tu ôl i’r llenni i gwisiau a gweithdai, a digon o gyfleoedd i fwynhau'r trysorau cenedlaethol sydd i'w gweld gan yr Amgueddfa a'r Llyfrgell.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar yr ŵyl, cysylltwch a swyddfa@dysgucymraeg.cymru