Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyn ohebydd rygbi yn rhoi ail gynnig ar ddysgu'r Gymraeg

Stephen Bale a Nia Parry

Mae cyn ohebydd rygbi wedi treulio'r rhan fwyaf o'r ddwy flynedd ddiwethaf yn dysgu Cymraeg, ar ôl iddo bron â cholli'r iaith tua deugain mlynedd yn ôl.

Mae Stephen Bale, a symudodd o Taunton, Gwlad yr Haf i Fagwyr yn 2016, yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei weinyddu gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cwblhaodd Stephen gwrs i ddechreuwyr yn y 1970au yng Nghastell Nedd, sef ei dref enedigol, ond wrth i'w yrfa ddatblygu a'i waith hawlio blaenoriaeth, doedd ganddo ddim llawer o amser i barhau i ddysgu’r iaith.

Dros y blynyddoedd, mae Stephen wedi gweithio gyda sawl papur newydd gan gynnwys y Neath Guardian, South Wales Evening Post, South Wales Argus a'r Western Mail.  Yn fwy diweddar, bu'n teithio dramor gyda'i waith ar yr Independent, The Express a’r Sunday Times, yn gohebu ar dros 500 o gemau rhyngwladol ac wyth taith gyda'r Llewod.

Ers ymddeol, mae Stephen wedi bod yn benderfynol o ennill yn ôl yr amser a gollwyd, ac erbyn hyn mae'n mynychu cwrs Dysgu Cymraeg wythnosol ar gyfer dysgwyr profiadol yng Nghil-y-Coed gyda'r tiwtor, Helen Young.

Eleni, mae Stephen wedi ennill y wobr genedlaethol i ddysgwyr profiadol, gwobr sy'n cael ei rhoi gan Ferched y Wawr, ac i Helen y mae'r diolch am hynny;

‘‘Mi wnes i ysgrifennu traethawd yn dwyn y teitl 'Darganfod yr iaith Gymraeg', traethawd y gwnaeth Helen ei anfon i'r gystadleuaeth. Mae'r traethawd yn canolbwyntio ar y siom a deimlais o golli'r iaith flynyddoedd yn ôl, a sut y gwnaeth hynny fy ysgogi i wella ac i ddod yn siaradwr rhugl.’’

Mae Stephen yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio ei Gymraeg yn lleol.  Mae'n mynychu gweithgareddau Cymraeg ac mae'n ymweld â'r Ganolfan Gymraeg newydd, Tŷ Croeso yng Nghas-gwent yn aml.  Mae cymryd rhan yn y cynllun 'Siarad' wedi chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad.  Dyma'r cynllun gwirfoddol sy'n dod â siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr at ei gilydd, i gyfarfod am ddeg awr, i sgwrsio yn Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth;

‘‘Mae fy mhartner Siarad, Ben Jones wedi bod yn amyneddgar iawn! Mae cael cwmni siaradwr rhugl mewn amgylchedd anffurfiol wedi bod o gryn gymorth ac wedi rhoi hwb aruthrol i fy hyder. Mae wedi fy narbwyllo i beidio â bod yn swil, a heb ei gefnogaeth, byddai profi llwyddiant yn fy arholiad Cymraeg llafar diweddar wedi bod yn fwy o her.’’

Ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer siaradwyr profiadol, gobaith Stephen ydy parhau i ddysgu a gwella.  Ond fel yr eglura, yr hyn sy'n bwysig ydy'r gallu i siarad yr iaith;

‘‘Mae siarad yr iaith yn allweddol a dw i am barhau i ddefnyddio fy Nghymraeg mor aml ag y gallaf. Hyder yw'r peth anoddaf wrth ddysgu Cymraeg, hyder i roi cynnig arni yn ogystal â gwneud camgymeriadau. Roedd colli'r Gymraeg yn un o fy nghamgymeriadau mwyaf erioed, ond fel y dengys fy mhrofiad i, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!’’

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

Llun: Stephen Bale yn derbyn tystysgrif gan Nia Parry, wedi iddo basio ei arholiad Dysgu Cymraeg Canolradd.