Mae dysgwyr o bob cwr o Gymru wedi cyfrannu at raglen radio arbennig sy’n dathlu Dydd Miwsig Cymru 2019.
Mae’r rhaglen hanner awr o hyd yn cynnig blas ar gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd dros y degawdau diwethaf, o Dafydd Iwan i Adwaith, Steffan Rhys Williams, Fflur Dafydd a’r Barf a Candelas.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae mor bwysig i agor drysau diwylliant poblogaidd Cymraeg i ddysgwyr ac mae cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr ddod i wybod mwy am gerddoriaeth Gymraeg.
“Mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg hefyd yn help wrth ddysgu’r iaith a ’dyn ni’n ddiolchgar i bawb am gymryd rhan – mae’r criw wedi cyflwyno’r gwahanol draciau gyda brwdfrydedd a sglein.”
Cynhyrchwyd y rhaglen gyda chymorth cwmni Stiwdio Box. Fe’i darlledwyd yn gyntaf ar wefan cymru.fm ac yna ar BBC Radio Cymru 2. Gellir gwrando arni eto isod.