Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Dathlu Dydd Miwsig Cymru
Dydd Miwsig Cymru

Mae dysgwyr o bob cwr o Gymru wedi cyfrannu at raglen radio arbennig sy’n dathlu Dydd Miwsig Cymru 2019.

Mae’r rhaglen hanner awr o hyd yn cynnig blas ar gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd dros y degawdau diwethaf, o Dafydd Iwan i Adwaith, Steffan Rhys Williams, Fflur Dafydd a’r Barf a Candelas.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae mor bwysig i agor drysau diwylliant poblogaidd Cymraeg i ddysgwyr ac mae cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr ddod i wybod mwy am gerddoriaeth Gymraeg.

“Mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg hefyd yn help wrth ddysgu’r iaith a ’dyn ni’n ddiolchgar i bawb am gymryd rhan – mae’r criw wedi cyflwyno’r gwahanol draciau gyda brwdfrydedd a sglein.”

Cynhyrchwyd y rhaglen gyda chymorth cwmni Stiwdio Box. Fe’i darlledwyd yn gyntaf ar wefan cymru.fm ac yna ar BBC Radio Cymru 2. Gellir gwrando arni eto isod.