Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dau ddigwyddiad difyr i ddysgwyr

Dau ddigwyddiad difyr i ddysgwyr

Yn ddiweddar, cynhaliwyd dau ddigwyddiad ar gyfer dysgwyr oedd yn boblogaidd iawn.  Yn wir, roedd rhestr aros ar gyfer y ddau! 

Y cyntaf oedd teithiau cerdded i ddysgwyr yng nghwmni’r naturiaethwr Iolo Williams ym Mharc Margam, Cwm Idwal, Libanus a Dinbych.

Yr ail oedd penwythnos preswyl i ddysgwyr yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn dros ŵyl y banc Calan Mai. 

Diolch i’r holl ddysgwyr wnaeth fynychu’r digwyddiadau.  Dyma beth ddywedodd ambell un…

Penwythnos preswyl Glan-llyn

Ges i amser bendigedig yng Nglan-llyn. Roedd y penwythnos yn llawn gweithgareddau, gan ddechrau efo noson allan efo Bwncath yn Llanuwchllyn, a gorffen efo cinio dydd Sul. Roedd y tiwtoriaid yn ardderchog ac mi wnes i fwynhau’r dosbarthiadau. Dros y penwythnos roedd pawb yn siarad Cymraeg felly roedd o’n gyfle gwych i ymarfer siarad Cymraeg ym mhob sefyllfa, gan gynnwys efo pobl leol. Dw i'n edrych ymlaen at gofrestru flwyddyn nesa.

Caroline Garrett

Roedd y penwythnos wedi ei drefnu’n dda. Roedd Noson Bwncath yn fendigedig, a’r gweithgareddau yn y gwersyll yn rhoi cyfle i siarad a gweithio efo’n gilydd. Roedd y daith i’r Bala a Llyn Tryweryn, a siarad efo pobl leol yn gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg. Roedd Fiona yn y Noson Storïau yn ardderchog, a drama “Hanes yr Urdd” yn fendigedig. Roedd y cwrs yn wych - doedd dim un peth yn well na’r llall. Diolch i bob un o’r tiwtoriaid a staff Glan-llyn.

Sara Bell

Roedd Noson Bwncath yn rhagorol, ac roedd awyrgylch y gwersi’n ddymunol a’r cynnwys yn ddefnyddiol. Roedd siarad efo pobl leol yn wirioneddol werth chweil, ac rwy'n teimlo'n fwy hyderus o ganlyniad. Roedd y Noson Storïau yn ddifyr ac roedd Drama “Hanes yr Urdd” yn ysbrydoledig. Y peth gorau am y cwrs oedd yr amrywiaeth.

Kevin Griffiths

Taith gerdded Iolo Williams o amgylch Sir Ddinbych

Cawson ni daith gerdded mor hyfryd o gwmpas cefn gwlad Dinbych, a dysgu llawer am fywyd gwyllt a natur gan Iolo. Gawson ni’r cyfle i siarad Cymraeg drwy’r bore a gwneud ffrindiau newydd hefyd. Diolch bawb, dw i’n edrych ymlaen at yr un nesaf.

Graiagh

Mae Iolo’n ddyn cyfeillgar iawn, efo gwybodaeth anhygoel am fyd natur. Roedd o eisiau stopio ac esbonio pob planhigyn, pryf ac aderyn ar hyd y daith. Mae o’n siarad yn glir iawn, perffaith i ddysgwyr. Diolch i Iolo ac i Fenter Iaith Sir Ddinbych am ddiwrnod ardderchog.

Pete Baston

Dw i'n dysgu Cymraeg ar-lein ar hyn o bryd, felly roedd hi'n grêt cyfarfod dysgwyr eraill o fy ardal. Mi aethon ni am dro mewn tywydd hyfryd, a dysgu llawer am fyd natur a thipyn o hanes Dinbych. Dw i’n hoff iawn o Iolo Williams, felly ro’n ni wrth fy modd o gael cyfle i siarad efo fy arwr yn Gymraeg.

Janette Lewis