Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dydd Miwsig Cymru

Dathlu Dydd Miwsig Cymru! 

Mae Dydd Miwsig Cymru, sy'n dathlu'r amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg sydd yma yng Nghymru, yn cael ei gynnal heddiw (8 Chwefror).

Mae dysgwyr ar draws y wlad wedi recordio rhaglen radio sy'n cael ei darlledu ar wefan Cymru.FM am 1.00pm ac ar BBC Radio Cymru 2 am 2.00pm. Mae tiwtoriaid a dysgwyr hefyd wedi ymuno i gyd-ganu cân boblogaidd y grŵp Maharishi, 'Tŷ ar y Mynydd' mewn fideo arbennig (uchod). 

P’un ai dych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg. Dysgwch fwy am Ddydd Miwsig Cymru yma. 

Darllenwch flog Huw Aaron, yr arlunydd sy'n gyfrifol am y cymeriadau Seren a Sbarc. 

Mae’n wych i ni gael cyfle i gyflwyno’r bandiau a’r cerddorion anhygoel yma i gynelleidfa newydd.

Huw Aaron, arlunydd