Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Angharad Price

Holi Angharad Price

Yma, ’dyn ni’n holi’r awdures, Angharad Price sy’n byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu.  Mae Angharad yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac wedi ysgrifennu amryw o lyfrau.  Mae hi hefyd yn diwtor Gloywi Iaith gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.

Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

Hoff lyfr yn blentyn?

Mari Trwyn Smwt gan Morfudd Williams.  Llyfr bach clawr caled o'r 1960au oedd o, efo lluniau du a gwyn.  Roedd yn adrodd stori cwningen o'r enw Mari oedd yn byw ar ei phen ei hun ac yn darllen papur newydd.  Dyna'r cyfan dw i'n ei gofio.  Ond ro’n i’n hoffi'r gwningen yma'n fawr iawn!

Hoff lyfr fel oedolyn?
Ro’n i’n meddwl bod llyfr The Sound of Waves gan Yukio Mishima yn ffantastig.  Ond, pan wnes i ddarllen Anna Karenina gan Tolstoi (proses hir iawn), gwnaeth y nofel argraff fythgofiadwy arna i.  Pan wnes i orffen y nofel doeddwn i ddim yn gallu siarad am ychydig bach.

Pa lyfr sy wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?
Dw i'n edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru bob dydd, bron, i gael hanes gair neu i ddeall ystyr gair yn union.  Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn drysor.

Ble da chi’n ysgrifennu?
Dw i fel arfer yn ysgrifennu yn fy stydi yn atig y tŷ.  Ond pan mae'n oer iawn, dw i’n  eistedd yn fy ngwely ac yn rhoi'r gliniadur ar fy nglin.  Y peth gwaethaf un i'r asgwrn cefn!

Pa bynciau sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Popeth.  Dw i'n meddwl am ysgrifennu trwy'r dydd bob dydd.  Felly mae pob sgwrs, pob cyfarfyddiad, popeth dw i’n ei weld neu ei glywed neu ei ddarllen yn medru bod yn ysbrydoliaeth.  Y gamp fwyaf ydy troi'r ysbrydoliaeth yn ddarn o ysgrifennu cofiadwy.

Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?

Mynd amdani!  Darllen bob dydd, ysgrifennu bob dydd - a dyfalbarhau.