Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Holi Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Llongyfarchiadau i ddechrau! Sut deimlad oedd ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022?

Ro’n i’n hapus iawn o fod wedi ennill Gwobr y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd ac yn ddiolchgar iawn i fy nhiwtoriaid.  O’n i erioed wedi bod mewn Eisteddfod o’r blaen, ac erioed wedi clywed am Eisteddfod cyn dechrau dysgu Cymraeg ar ddechrau’r cyfnod clo.  Roedd yn brofiad arbennig iawn.

O’n i’n hoff iawn o ardal Dinbych, ac o’n i wedi rhyfeddu gyda’r tywydd gawson ni yno – o’r cymylau duon yn bygwth yn y bore, i’r haul braf yn y prynhawn.

Pam wnes di ddechrau dysgu Cymraeg?

Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg am fod fy nghariad, Angharad, yn siarad Cymraeg ond y prif berson wnaeth fy ysbrydoli i gario mlaen i ddysgu oedd Helen Prosser, fy nhiwtor cyntaf ar-lein.

Beth sy wedi dy helpu fwyaf i ddysgu Cymraeg?

Dw i’n credu mai un o’r pethau wnaeth fy helpu i fwyaf wrth ddechrau dysgu oedd defnyddio app SaySomethinginWelsh gyda’r gwersi trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg. Dyna sut wnes i fagu hyder i siarad Cymraeg, a byddwn i yn arfer gwrando ar yr app tra’n golchi’r llestri!

Dw i hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig i pawb ddysgu ar gyflymder sydd yn gweithio iddyn nhw. Dw i wrth fy modd yn gwneud y cyrsiau dwys, ac eisiau dysgu’n sydyn, ond mae pawb yn wahanol a dyw hi ddim yn bwysig pa mor sydyn wyt ti’n gallu dysgu.

Hoff fand?

Dw i’n hoff iawn o gân ‘Beth bynnag fydd’ gan Swnami a dw i hefyd yn hoffi ‘Eto’ gan Adwaith.

Hoff raglen deledu Gymraeg?

Does gen i ddim teledu!

Hoff gyfrif Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol?

Dw i yn hoff iawn o Bronwen Lewis ar TikTok.

Peth gorau am siarad Cymraeg?

Gan mod i yn berson allblyg, y peth gorau i mi yw cael cyfarfod cymaint o bobl newydd.  Dw i wrth fy modd yn sgwrsio gyda phobl eraill sy’n dysgu Cymraeg yn y gwersi hefyd.

Beth sy nesa i ti yn Dysgu Cymraeg?

Dw i newydd orffer cwrs dwys Lefel Uwch 2, ac yn gobethio gwneud cwrs Lefel Uwch 3 yn mis Medi. Ond efallai y gwna i gwrs arferol tro yma, nid un dwys fel ydw i wedi ei wneud dros yr 18 mis diwethaf!