Holi Maddie Tracey
Yma, ’dyn ni’n holi Maddie Tracey. Mae Maddie yn 23 oed ac yn mynychu cwrs Dysgu Cymraeg lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir?
Ces i fy ngeni a fy magu yn Abertawe ond yn 2020, nes i symud er mwyn astudio gradd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Birmingham. Gwnes i fynd i ysgol Saesneg, ond gwnes i fwynhau astudio Cymraeg TGAU.
Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Gwnes i fwynhau dysgu Cymraeg yn yr ysgol, a Chymraeg ydy iaith gyntaf fy mhartner, felly ro’n i eisiau ymuno â dosbarth er mwyn cael hyder i sgwrsio yn y Gymraeg. Dw i’n bwriadu dod yn ôl i Gymru ar ôl graddio, ac yn gobeithio bod y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth ymgeisio am swyddi.
Sut brofiad ydy dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol?
Dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol. Mae’r dosbarth yn arbennig o dda ac mae’r system o rannu i grwpiau a’r defnydd o gyflwyniadau pwynt pŵer yn effeithiol iawn. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i ddysgu Cymraeg o bell.
Dych chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?
Dw i’n trio cynnal sgwrs ac ateb cwestiynau pan fedra i, ac mae’r cwrs Dysgu Cymraeg wedi rhoi hyder i mi wneud hyn.
Beth dych chi’n fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Dw i’n mwynhau’r sialens o ddysgu iaith newydd. Mae dysgu Cymraeg hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi gyfarfod pobl newydd, dysgwyr sy ar y cwrs a phobl eraill mewn digwyddiadau anffurfiol.
Beth yw eich cyngor i bobl ifanc eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Hoffwn annog pobl ifanc eraill i ddysgu Cymraeg gan ei fod yn ffordd o godi eich hyder ac yn cynnig cyfleoedd i chi yn y gweithle. Mae hefyd yn gyfle da i gyfarfod pobl newydd.
Beth ydy eich barn am y cynllun newydd i gynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc rhwng 18-25 oed?
Dw i’n meddwl ei fod yn syniad gwych, bydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc ddal gafael ar y Gymraeg ar ôl iddynt adael yr ysgol.
Dysgu Cymraeg – beth nesaf?
Dw i’n mynd i sefyll arholiad Dysgu Cymraeg lefel Mynediad fis Mehefin. Wedyn dw i eisiau parhau i ddysgu a dilyn cwrs arall cyn diwedd y flwyddyn.