Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Maddie Tracey

Holi Maddie Tracey

Yma, ’dyn ni’n holi Maddie Tracey.  Mae Maddie yn 23 oed ac yn mynychu cwrs Dysgu Cymraeg lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir?

Ces i fy ngeni a fy magu yn Abertawe ond yn 2020, nes i symud er mwyn astudio gradd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Birmingham.  Gwnes i fynd i ysgol Saesneg, ond gwnes i fwynhau astudio Cymraeg TGAU.

Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Gwnes i fwynhau dysgu Cymraeg yn yr ysgol, a Chymraeg ydy iaith gyntaf fy mhartner, felly ro’n i eisiau ymuno â dosbarth er mwyn cael hyder i sgwrsio yn y Gymraeg.  Dw i’n bwriadu dod yn ôl i Gymru ar ôl graddio, ac yn gobeithio bod y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth ymgeisio am swyddi.

Sut brofiad ydy dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol?

Dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol.  Mae’r dosbarth yn arbennig o dda ac mae’r system o rannu i grwpiau a’r defnydd o gyflwyniadau pwynt pŵer yn effeithiol iawn.  Mae hefyd wedi fy ngalluogi i ddysgu Cymraeg o bell.

Dych chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?

Dw i’n trio cynnal sgwrs ac ateb cwestiynau pan fedra i, ac mae’r cwrs Dysgu Cymraeg wedi rhoi hyder i mi wneud hyn.

Beth dych chi’n fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n mwynhau’r sialens o ddysgu iaith newydd.  Mae dysgu Cymraeg hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi gyfarfod pobl newydd, dysgwyr sy ar y cwrs a phobl eraill mewn digwyddiadau anffurfiol.

Beth yw eich cyngor i bobl ifanc eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Hoffwn annog pobl ifanc eraill i ddysgu Cymraeg gan ei fod yn ffordd o godi eich hyder ac yn cynnig cyfleoedd i chi yn y gweithle.  Mae hefyd yn gyfle da i gyfarfod pobl newydd.

Beth ydy eich barn am y cynllun newydd i gynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc rhwng 18-25 oed?

Dw i’n meddwl ei fod yn syniad gwych, bydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc ddal gafael ar y Gymraeg ar ôl iddynt adael yr ysgol.

Dysgu Cymraeg – beth nesaf?

Dw i’n mynd i sefyll arholiad Dysgu Cymraeg lefel Mynediad fis Mehefin.  Wedyn dw i eisiau parhau i ddysgu a dilyn cwrs arall cyn diwedd y flwyddyn.