Holi Mari Emlyn
Yma, ’dyn ni’n holi’r actores, sgriptwraig a’r awdures, Mari Emlyn sy’n byw yn Y Felinheli gyda’i theulu. Mae Mari wedi ysgrifennu sawl nofel ac mae hi hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.
Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.
Hoff lyfr yn blentyn?
Un Noson Dywyll gan T. Llew Jones.
Hoff lyfr fel oedolyn?
Un o fy hoff lyfrau ydy The Death of David Debrizzi gan Paul Micou. Dw i’n mynd yn ôl at y llyfr yma’n aml yn meddwl pa mor braf fasai gallu ysgrifennu gystal â Paul Micou. Wna i byth flino ar y nofel yma.
Pa lyfr sy wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?
Llyfr Sali Mali gan mai dyma’r llyfr a agorodd y drws i mi ar fedru darllen!
Ble dych chi’n ysgrifennu?
Yn rhywle, weithiau ar drên, ar fy ngwyliau, mewn caffi, ond fel arfer yn fy stydi.
Pa bynciau sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?
Pynciau sy’n agos at fy nghalon: pynciau fel ysgrifennu – mae llawer o fy ngwaith am lyfrau neu am bobl yn trio creu (Mefus yn Y Glaw/ Wal / Llyfr y Flwyddyn); yr amgylchedd (Wal); merched (Wal / Llyfr y Flwyddyn).
Pa lyfr fasech chi yn ei brynu yn anrheg i rywun?
Dibynnu pwy sy’n derbyn y llyfr, ond llyfrau dw i’n prynu’n anrhegion i bawb fel arfer. Dw i newydd brynu llyfr 10 stori o Hanes Cymru y Dylai Pawb eu Gwybod i fy nith fach sydd newydd gael ei geni!
Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?
Darllen, darllen, darllen.
Pam penderfynu gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg hefyd?
Dan ni angen dysgwyr Cymraeg. Dw i’n mwynhau dysgu dysgwyr a dw i’n dysgu llawer am yr iaith wrth wneud.
Dych chi eisiau ysgrifennu llyfrau i ddysgwyr rhyw ddydd?
Dw i’n credu y byddai fy nofel, Wal yn addas i ddysgwyr gan fod yr iaith yn ailadroddus (repetitive) - er nad ydi hi wedi ei hysgrifennu’n benodol (specific) i ddysgwyr. Mi faswn i’n hapus iawn i drio ysgrifennu llyfrau i ddysgwyr.