Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Mari Emlyn

Holi Mari Emlyn

Yma, ’dyn ni’n holi’r actores, sgriptwraig a’r awdures, Mari Emlyn sy’n byw yn Y Felinheli gyda’i theulu.  Mae Mari wedi ysgrifennu sawl nofel ac mae hi hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.

Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

Hoff lyfr yn blentyn?

Un Noson Dywyll gan T. Llew Jones.

Hoff lyfr fel oedolyn?

Un o fy hoff lyfrau ydy The Death of David Debrizzi gan Paul Micou.  Dw i’n mynd yn ôl at y llyfr yma’n aml yn meddwl pa mor braf fasai gallu ysgrifennu gystal â Paul Micou.  Wna i byth flino ar y nofel yma.

Pa lyfr sy wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?

Llyfr Sali Mali gan mai dyma’r llyfr a agorodd y drws i mi ar fedru darllen!

Ble dych chi’n ysgrifennu?

Yn rhywle, weithiau ar drên, ar fy ngwyliau, mewn caffi, ond fel arfer yn fy stydi.

Pa bynciau sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Pynciau sy’n agos at fy nghalon: pynciau fel ysgrifennu – mae llawer o fy ngwaith am lyfrau neu am bobl yn trio creu (Mefus yn Y Glaw/ Wal / Llyfr y Flwyddyn); yr amgylchedd (Wal); merched (Wal / Llyfr y Flwyddyn).

Pa lyfr fasech chi yn ei brynu yn anrheg i rywun?

Dibynnu pwy sy’n derbyn y llyfr, ond llyfrau dw i’n prynu’n anrhegion i bawb fel arfer.  Dw i newydd brynu llyfr 10 stori o Hanes Cymru y Dylai Pawb eu Gwybod i fy nith fach sydd newydd gael ei geni!

Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?

Darllen, darllen, darllen.

Pam penderfynu gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg hefyd?

Dan ni angen dysgwyr Cymraeg.  Dw i’n mwynhau dysgu dysgwyr a dw i’n dysgu llawer am yr iaith wrth wneud.

Dych chi eisiau ysgrifennu llyfrau i ddysgwyr rhyw ddydd?

Dw i’n credu y byddai fy nofel, Wal yn addas i ddysgwyr gan fod yr iaith yn ailadroddus (repetitive) - er nad ydi hi wedi ei hysgrifennu’n benodol (specific) i ddysgwyr.  Mi faswn i’n hapus iawn i drio ysgrifennu llyfrau i ddysgwyr.