Holi Susie Paice
Yma, ’dyn ni’n holi Susie Paice. Mae Susie yn 24 oed ac yn dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.
O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir?
Ces i fy ngeni yn Southampton a gwnes i fyw ar Ynys Wyth (Isle of Wight) am sbel. Dw i newydd symud i Gaerdydd i astudio cwrs ôl radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sut clywsoch chi am y Gymraeg?
Gwnes i weld y Gymraeg pan ro’n i ar wyliau gyda fy nhad yn Aberporth, gorllewin Cymru. Dw i’n cofio darllen Cymraeg ar y fwydlen yn y gwesty bob bore.
Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Gwnes i ddangos diddordeb yn y Gymraeg pan ro’n i’n chwilio am gwrs prifysgol, ac roedd cwrs Astudiaethau Celtaidd yn swnio’n ddiddorol. Yn y diwedd, gwnes i astudio Gaeleg yr Alban ym Mhrifysgol Aberdeen. Ond dechreuais i ddysgu Cymraeg pan nes i symud i fyw i Aberystwyth am flwyddyn.
Beth dych chi’n fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Dw i’n mwynhau dod i adnabod pobl eraill sy’n y dosbarth. Mae mynychu’r dosbarth wythnosol ar Zoom wedi bod yn ffordd wych o gadw cyswllt â’r byd go iawn yn ystod y pandemig.
Beth yw eich cyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch i ddigwyddiadau Cymraeg – mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn trefnu nifer o ddigwyddiadau. Edrychwch am bodlediadau, rhaglenni teledu neu radio dych chi’n eu mwynhau, gan y bydd hyn yn cynnal eich diddordeb yn y Gymraeg, ac yn eich atgoffa o rai geiriau neu ramadeg dych chi wedi eu dysgu.
Beth ydy eich barn am y cynllun newydd i gynnig cyrsiau dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc rhwng 18-25 oed?
Mae’n syniad gwych. Gall y cynllun ddenu pobl sy eisiau dysgu Cymraeg ond sy’n poeni nad oes ganddyn nhw ddigon o amser. Wrth gynnig cyrsiau am ddim, bosib y bydd rhai pobl yn fwy parod i roi cynnig arni, a gobeithio syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg!
Dysgu Cymraeg – beth nesaf?
Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr, felly dw i’n mynd i drio ffeindio pobl sy’n siarad yr iaith er mwyn ymarfer fy Nghymraeg. Dw i hefyd eisiau parhau i ddysgu Cymraeg ar lefel Uwch ym mis Medi.