Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Susie Paice

Holi Susie Paice

Yma, ’dyn ni’n holi Susie Paice.  Mae Susie yn 24 oed ac yn dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir?

Ces i fy ngeni yn Southampton a gwnes i fyw ar Ynys Wyth (Isle of Wight) am sbel.  Dw i newydd symud i Gaerdydd i astudio cwrs ôl radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut clywsoch chi am y Gymraeg?

Gwnes i weld y Gymraeg pan ro’n i ar wyliau gyda fy nhad yn Aberporth, gorllewin Cymru.  Dw i’n cofio darllen Cymraeg ar y fwydlen yn y gwesty bob bore.

Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Gwnes i ddangos diddordeb yn y Gymraeg pan ro’n i’n chwilio am gwrs prifysgol, ac roedd cwrs Astudiaethau Celtaidd yn swnio’n ddiddorol.  Yn y diwedd, gwnes i astudio Gaeleg yr Alban ym Mhrifysgol Aberdeen.  Ond dechreuais i ddysgu Cymraeg pan nes i symud i fyw i Aberystwyth am flwyddyn.

Beth dych chi’n fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n mwynhau dod i adnabod pobl eraill sy’n y dosbarth.  Mae mynychu’r dosbarth wythnosol ar Zoom wedi bod yn ffordd wych o gadw cyswllt â’r byd go iawn yn ystod y pandemig.

Beth yw eich cyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Ewch i ddigwyddiadau Cymraeg – mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn trefnu nifer o ddigwyddiadau.  Edrychwch am bodlediadau, rhaglenni teledu neu radio dych chi’n eu mwynhau, gan y bydd hyn yn cynnal eich diddordeb yn y Gymraeg, ac yn eich atgoffa o rai geiriau neu ramadeg dych chi wedi eu dysgu.

Beth ydy eich barn am y cynllun newydd i gynnig cyrsiau dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc rhwng 18-25 oed?

Mae’n syniad gwych.  Gall y cynllun ddenu pobl sy eisiau dysgu Cymraeg ond sy’n poeni nad oes ganddyn nhw ddigon o amser.  Wrth gynnig cyrsiau am ddim, bosib y bydd rhai pobl yn fwy parod i roi cynnig arni, a gobeithio syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg!

Dysgu Cymraeg – beth nesaf?

Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr, felly dw i’n mynd i drio ffeindio pobl sy’n siarad yr iaith er mwyn ymarfer fy Nghymraeg.  Dw i hefyd eisiau parhau i ddysgu Cymraeg ar lefel Uwch ym mis Medi.