Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Newyddiadurwraig frwdfrydig o Birmingham yn darganfod y Gymraeg

Newyddiadurwraig frwdfrydig o Birmingham yn darganfod y Gymraeg

Mae newyddiadurwraig ifanc o Birmingham wedi penderfynu ymgartrefu yng Nghymru a rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg.

Mae Emily Withers, sy’n gweithio gyda Wales Online, wrth ei bodd yn byw yng Nghymru.  Mae wedi syrthio mewn cariad â’r Gymraeg ar ôl ymuno â chwrs ar gyfer dechreuwyr yng Nghaerdydd.

Meddai Emily: ‘‘Mi ddes i yma i’r brifysgol a dyna’r penderfyniad gorau nes i.  Dw i wedi teimlo mod i’n perthyn i Gymru ers dechrau dysgu Cymraeg.  Mae dysgu Cymraeg yn fodd o ddangos parch, a hoffwn fedru ateb rhywun yn Gymraeg, os ’dyn nhw’n penderfynu siarad Cymraeg gyda fi.’’

Gadawodd Emily Birmingham yn 2017 er mwyn gwireddu breuddwyd o astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd.  Aeth yn ei blaen i ddilyn cwrs Meistr mewn Newyddiaduraeth y llynedd, gan raddio gyda rhagoriaeth.

Mae Emily yn dilyn cwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae’n mwynhau dysgu rhywbeth newydd bob wythnos, ac wedi dechrau defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

‘‘Weithiau dw i’n defnyddio fy Nghymraeg gyda chydweithwyr,’’ meddai Emily, ‘‘a dw i’n cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal tudalen Facebook cyfrwng Cymraeg sy’n rhannu straeon newyddion.  Mae Cymru Ar-lein yn cynnwys geirfa a ’dyn ni’n gofyn cwestiynau yn Gymraeg er mwyn annog trafodaeth.  Os dych chi’n dysgu Cymraeg ac â diddordeb mewn materion cyhoeddus, ymunwch â’r grŵp!’’

Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.  Am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i dysgucymraeg.cymru neu cliciwch yma.

Hoffai Emily annog unrhyw un addas i fanteisio ar y cyfle:

‘‘Mae’r cynllun yma yn un gwych a bydd heb os yn ein cynorthwyo i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Dw i’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith gyda ffrindiau a chydweithwyr.  Ar hyn o bryd, dw i’n deall Cymraeg ysgrifenedig yn eithaf da, felly dw i’n gobeithio y bydd fy sgiliau llafar a gwrando yn gwella maes o law.  Os dych chi’n awyddus i ddysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni.  Mae dysgu Cymraeg yn hwyl a dych chi’n gallu ymarfer drwy’r amser os dych chi’n byw yng Nghymru!’’