Ar ôl treulio cyfnod yn gweithio yn arddangosfa celf gyfoes y Biennale fel rhan o brosiect Cymru yn Fenis 2019, cafodd Heledd Evans, sy’n 25 oed ac sy’n dod yn wreiddiol o Eastbourne, ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg.
Yn Fenis, gwnaeth Heledd, a astudiodd gwrs Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gwrdd â ffrindiau a oedd yn siarad Cymraeg a roddodd hwb iddi ddechrau dysgu.
Mae gan Heledd gysylltiadau teuluol yn Llandysul, Ceredigion, ac roedd wastad wedi ymfalchïo yn ei gwreiddiau Cymreig, ond cefnogaeth ei ffrindiau a’i hysgogodd i gofrestru ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Heledd, sy bellach yn gweithio fel artist ffrilans yn y brifddinas, wrth ei bodd gyda’i gwersi, ac mae’n sôn am sut mae’r iaith a’r diwylliant Cymraeg wedi dylanwadu ar ei gwaith creadigol:
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig caneuon gwerin a’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth yn hanes y Gymraeg. Fe wnes i osodwaith rai blynyddoedd yn ôl yn seiliedig ar y gân ‘Dafydd y Garreg Wen’ am fy mod i’n dwlu ar yr alaw a’r stori y tu ôl i’r gân. Dw i wedi bod yn gwneud rhagor o waith cyfansoddi yn ddiweddar a byddwn i wrth fy modd yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer darnau o farddoniaeth neu destunau Cymraeg un diwrnod!”
I Heledd, sy’n gweithio mewn maes creadigol, dywedodd:
“Yn y gwersi, mae dysgwyr yn siarad am eu gwaith a’r hyn maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd, ond ro’n i’n ei chael hi’n anodd mynegi yr hyn ro’n i eisiau ei ddweud am nad oeddwn i’n gwybod am ddigon o eirfa’n ymwneud â’r maes creadigol.”
Er mwyn hwyluso sgyrsiau am ei maes yn ei gwersi Cymraeg, aeth Heledd, gyda help ffrind, ati i greu ‘banc geiriau’, ble gall pobl rannu geiriau Cymraeg yn ymwneud â’r celfyddydau yn ogystal â bathu rhai newydd. Bydd y banc geiriau yn ffordd o helpu eraill i ddysgu geiriau Cymraeg newydd yn ymwneud â’r celfyddydau.
Mae Heledd wedi mwynhau cyfleoedd i ddefnyddio ei Chymraeg y tu allan i’r dosbarth. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, gweithiodd ar brosiect Gŵyl Gaeaf Llawn Lles gydag Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Eglura: “Fel rhan o’r prosiect, bues i’n cynnal rhai gweithdai yn Sain Ffagan, ac roedd yn hyfryd bod o gwmpas cymaint o aelodau o staff oedd yn siarad Cymraeg a chael yr anogaeth i ymarfer fy Nghymraeg gyda’r bobl ddaeth i’r gweithdai.”
Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed. Mae Heledd yn croesawu’r fenter newydd:
“Dw i’n meddwl ei bod yn syniad gwych! Mae cynnig gwersi am ddim yn cael gwared ar unrhyw rwystrau ariannol ac yn caniatáu i lawer mwy o bobl ifanc roi cynnig ar y gwersi, dw i’n credu. Mae’n fantais gallu siarad Cymraeg yn y byd gwaith hefyd ac felly bydd llawer o bobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith newydd yn elwa’n fawr ar y gefnogaeth yma.”
Dathlu straeon pobl ifanc yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy’n cael ei chynnal rhwng 23-30 Mehefin, yn gyfle i dynnu sylw at straeon positif fel un Heledd.
Mae Sharon Lovell, Prif Weithredwr NYAS Cymru (National Youth Advocacy Service), hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, sy’n gyfrifol am gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru.
Meddai Sharon: “Hoffwn longyfarch Heledd ar ei champ arbennig o ddysgu’r Gymraeg – mae Heledd yn amlwg wrth ei bodd yn defnyddio’r iaith ac mae’n ysbrydoliaeth i eraill, fel finne, sy’n dysgu’r Gymraeg.
“Wrth i ni ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, ’dyn ni’n falch iawn o rannu stori Heledd. Mae dysgu sgil newydd fel siarad Cymraeg yn gallu helpu adeiladu hyder, sy’n arbennig o bwysig i bobl ifanc.
“Mae dysgu hefyd yn gyfle i bobl ifanc ymgysylltu ag eraill, a gall agor y drws ar bob math o gyfleoedd cyffrous newydd, fel sy wedi digwydd i Heledd.
“Gyda’r newyddion bod cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i bobl 18-25 mlwydd oed o fis Medi ymlaen - gyda dewis o gyrsiau rhithiol a rhai wyneb-yn-wyneb - dw i wrth fy modd bod mwy o gyfleoedd nag erioed i bobl ifanc ddysgu a mwynhau siarad Cymraeg. Mae gwneud yr iaith ar gael i bob person ifanc yn sicrhau cydraddoldeb.”