Hanes y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Cyn y Gymraeg, Brythoneg oedd prif iaith Cymru, Lloegr a de’r Alban, pan ddaeth y Rhufeiniaid yn 43 AD.
Daeth y Gymraeg o’r Frythoneg, rywbryd rhwng 400 a 700 AD. Mae barddoniaeth Gymraeg gynnar yn dod o’r cyfnod hwn.
Am fil o flynyddoedd, roedd y Gymraeg yn iaith i bawb. Roedd yn iaith bywyd bob dydd, ac yn iaith diwylliant a’r gyfraith.
Dyna sut oedd pethau, er bod yr Eingl-Normaniaid wedi concro tywysogion Cymru.

-
1536
Yn 1536, pan gafodd y Ddeddf Uno ei phasio, daeth Saesneg yn unig iaith y gyfraith.
-
1588
Cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588. Diolch i ysgolion sul teithiol y pregethwr Griffith Jones yn y 18fed ganrif, daeth pobl Cymru i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg. Doedd dim llawer o bobl yn Ewrop yn gallu darllen ac ysgrifennu eu hiaith yn y cyfnod hwn.
-
1760
Mi achoswyd newidiadau enfawr o safbwynt cyfathrebu a phoblogaeth gan y Chwyldro Diwydiannol.
-
1911
Mae Cyfrifiad 1911 yn nodi’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg - 977,366, 43.5% o bobl Cymru. Ond dyma hefyd y tro cyntaf mewn 2,000 o flynyddoedd i’r Gymraeg fod yn iaith llai na hanner y bobl.
Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar y Gymraeg hefyd. Cafodd 20,000 o filwyr Cymraeg eu lladd yn y rhyfel.
-
1921
Erbyn Cyfrifiad 1921 roedd nifer y siaradwyr i lawr i 37.1% o’r boblogaeth.
-
1962
Yn ei ddarlith radio enwog ar y BBC, Tynged yr Iaith, ym 1962, fe wnaeth Saunders Lewis ragweld bod yr iaith yn mynd i farw erbyn yr 21ain ganrif. Cafodd y ddarlith effaith fawr. Cafodd Cymdeithas yr Iaith ei ffurfio. Aeth y Gymdeithas ati i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol.
-
1967
Pasiwyd Deddf Iaith 1967 i roi’r hawl i bobl siarad Cymraeg yn Llysoedd Cymru. Roedd hawl hefyd i bobl gael ffurflenni swyddogol yn y Gymraeg.
-
1977
Daeth BBC Radio Cymru i fod yn 1977.
-
1982
Daeth sianel deledu Gymraeg S4C i fod yn 1982. Roedd y Gymraeg erbyn hyn yn iaith radio a theledu.
-
1993
Pasiwyd Deddf Iaith Gymraeg arall yn 1993. Yn 2003 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i gael gwlad ddwyieithog. Erbyn 2011 roedd niferoedd siaradwyr Cymraeg ifanc wedi dechrau codi.