Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwasanaethau Cymraeg Gwaith

Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 
Cymraeg Gwaith

Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg, sydd wedi ei ariannu’n llwyr i gyflogwyr.

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i siwtio bawb ar bob lefel o ddysgu Cymraeg, o ddysgu dwys dan arweiniad Tiwtor i gyrsiau hunan-astudio byr. Dewiswch isod i weld mwy.

Gwerthusiad Cymraeg Gwaith 2022-2023

Beth mae'r dysgwyr yn ei ddweud

Iechyd a Gofal Digidol Cymru Dysgwyr Defnyddio – Nant Gwrtheyrn
Gwnes i dwli cael siawns i gymryd rhan yn y cwrs yma. Sefydliad gwych! Athro arbennig, hyfryd i gwrdd efo pobl a cheisio siarad Cymraeg eto.
Cyngor Conwy Cwrs Dysgu gyda Thiwtor
Mae'r tiwtor yn wych a dw i'n hoffi'r cymysgedd o ddysgu ar lein ac wyneb yn wyneb.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Dysgwyr Defnyddio – Nant Gwrtheyrn
Mi roedd y modd cafodd y cwrs ei ddarparu wedi ei weddu yn dda i gael ei ddarparu yn rhithiol, mi roedd yna gyfuniad da o drafod fel dosbarth ac mewn grwpiau tra dysgu'r un pryd. Mi roedd y deunydd dysgu yn hawdd i'w ddeall ag i'r pwynt. Roedd y Tiwtor yn gefnogol ag yn wybodus iawn ac roedd ei fodd o ddysgu yn effeithiol iawn gan ddefnyddio iaith ddealladwy.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dysgwyr Defnyddio – Nant Gwrtheyrn
Roedd cynnwys y cwrs yn berthnasol iawn i fy ngwaith ac roedd y gweithgareddau yn amrywiol. Yn benodol, roedd ymarfer siarad mewn sefyllfaoedd gwahanol hefo amrywiaeth o ffurfioldeb yn ddefnyddiol iawn ac wedi fy mharatoi ar gyfer siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd a gyda gweithwyr proffesiynol.
Disability Arts Cymru Cwrs Dysgu gyda Thiwtor
Mae'r llyfr yn hawdd i'w ddilyn ac mae'r tiwtor hefyd yn rhoi pethau eraill yn y 'chat' neu ar y sgrin.