Mae'r holl gyrsiau sydd ar gael yn datblygu sgiliau Cymraeg ar wahanol lefelau dysgu, gan amrywio o rai addas ar gyfer dechreuwyr i rai addas ar gyfer siaradwyr mwy profiadol. Dyma eglurhad byr o bob lefel:
Mynediad: Lefel dechreuwyr – mae'r lefel yma'n addas os dych chi’n newydd i’r Gymraeg, neu'n deall patrymau iaith syml, gan gynnwys amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol a geiriau ac ymadroddion pob dydd.
Sylfaen: Os dych chi’n siarad tipyn o Gymraeg yn barod ac yn hyderus gyda amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol, dilynwch y lefel yma. Byddwch yn trafod pynciau fel ffrindiau, teulu, gwaith a hobïau.
Canolradd: Ar y lefel yma, byddwch yn dysgu patrymau iaith newydd a bydd llawer o waith sgwrsio. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu a byddwch yn dysgu llawer o eirfa newydd.
Uwch: Siarad yw’r prif beth ar y lefel yma. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando ac yn dysgu mwy am Gymru.
Gloywi/Gwella: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau iaith. Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.