Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Croeso!

Os dych chi’n gweithio yn y sector addysg statudol yng Nghymru, mae dewis gwych o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael i chi.

Gwybodaeth

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg wedi’u hariannu’n llawn. 

Mae dewis o gyrsiau ar gael:

  • Cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg.
  • Cyrsiau hunan-astudio.
  • Cyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gymuned, wyneb yn wyneb ac mewn dosbarthiadau rhithiol.
Pwy sy'n gallu dilyn y cyrsiau?
  • Athrawon cymwys mewn swydd neu sy’n chwilio am swydd
  • Athrawon sy newydd gymhwyso sy’n chwilio am swydd
  • Athrawon/cynorthwywyr cyflenwi
  • Unigolion sy’n hyfforddi ar hyn o bryd i fod yn athro cymwys
  • Cynorthwywyr Dysgu sy mewn cyflogaeth
  • Arweinyddion
  • Athrawon ymgynghorol
  • Staff nad ydynt yn dysgu

Os ydych chi’n gweithio yn y maes Addysg Bellach ac Addysg Uwch, mae cynllun ar wahân  sy’n cyllido cyrsiau dysgu Cymraeg ar gyfer y sector hwn.

Lefelau Dysgu Cymraeg

Mae dewis o gyrsiau ar gael, ar wahanol lefelau dysgu, sy'n addas ar gyfer dechreuwyr a dysgwyr profiadol:

Mynediad: Lefel dechreuwyr – mae'r lefel yma'n addas os dych chi’n newydd i’r Gymraeg, neu'n deall patrymau iaith syml, gan gynnwys amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol a geiriau ac ymadroddion pob dydd. 

Sylfaen: Os dych chi’n siarad tipyn o Gymraeg yn barod ac yn hyderus gyda amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol, dilynwch y lefel yma.  Byddwch yn trafod pynciau fel ffrindiau, teulu, gwaith a hobïau.

Canolradd: Ar y lefel yma, byddwch yn dysgu patrymau iaith newydd a bydd llawer o waith sgwrsio.  Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu a byddwch yn dysgu llawer o eirfa newydd.

Uwch: Siarad yw’r prif beth ar y lefel yma.  Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando ac yn dysgu mwy am Gymru.   

Gloywi/Gwella: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau iaith.  Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg

Beth mae'n dysgwyr yn dweud

Anna Athrawes Uwchradd, Hydref 2022
For the first time ever I am feeling okay about actually trying to speak it! I am using more Welsh words and phrases in the classroom and encourage my students to do the same.
Perla Cynorthwyydd Dysgu, Hydref 2022
As a TA and working in a school environment it allows me to participate in the children’s Welsh learning journey.

Pa gwrs?

Os dych chi eisiau help i ddewis cwrs, defnyddiwch y Dewin Dysgu isod.  Os dych chi'n dewis cwrs cymunedol sydd â phris, byddwch yn derbyn côd disgownt gan y darparwr lleol er mwyn derbyn y cwrs am ddim.  

Dewin Dysgu
Cyn i chi ddechrau eich taith iaith gyffrous, beth am ateb rhai cwestiynau syml?

Chwilio am gwrs

cwrs ar gael
Dod o hyd i gwrs
Gweithlu Gofal Plant

Os dych chi'n ymarferwr Gofal Plant, mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gael i chi yma

Gweithwyr Ieuenctid

Os dych chi'n Weithiwr Ieuenctid, bydd cyrsiau wedi'u teilwra ar gael yn fuan.

Gweithlu Addysg Bellach ac Addysg Uwch

Os dych chi'n gweithio i sefydliad Addysg Bellach neu Addysg Uwch, mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gael trwy gynllun Cymraeg Gwaith