Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol:
Mynediad: Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr, sy'n cyflwyno'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol.
Sylfaen: Mae'r lefel yma yn gofyn am rywfaint o brofiad o'r Gymraeg. Bydd cyfleoedd i drafod pynciau pob dydd fel y teulu, ffrindiau, gwaith a diddordebau.
Canolradd: Mae’r lefel yma yn addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gyda mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando.
Uwch: Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus yw’r prif nod.
Gloywi/Gwella: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio eu sgiliau iaith. Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.
Mae mwy o fanylion ar gael yn y Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg.