Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Pınar yn dysgu Cymraeg

Pınar yn dysgu Cymraeg

Dyma sgwrs gydag un o actorion cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Y Cylch Sialc, Pınar Öğün:

    1. O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

    Dw i’n dod o Dwrci. Es i i LAMDA i astudio actio ac wedyn nes i fyw yn Llundain am dair blynedd. Ond es i yn ôl i Dwrci, i Istanbul a nes i ddechre gwaith yn teledu a sioeau theatr. Yn anffodus, dw i wedi bod trwy gyfnodau anodd oherwydd sioe theatr, Mi Minor. Felly, yn 2013, nes i symud i Gaerdydd i fod yn ddiogel a dechrau bywyd newydd. 

    1. Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

    Nes i ddechre dysgu Cymraeg pan ges i fy nghastio yn y sioe deledu Un Bore Mercher ar S4C. Nes i actio y deintydd, Meral Alpay, am bedair pennod. Roedd hi’n profiad cyffrous iawn. Wedyn nes i benderfynu dysgu Cymraeg. Mae’n anodd iawn ond wnes i barhau i ymarfer. Nawr dw i’n byw yn Nghymru -Cymru yw fy nghartre ac felly dw i’n meddwl mae’n hanfodol siarad Cymraeg. Dw i’n mwynhau siarad Cymraeg ac eisiau gwella.

    1. Sut/ble wnest ti ddysgu?

    Yn gyntaf, nes i ddechre trio siarad Cymraeg gyda help ffrind, sydd wedi dysgu siarad Cymraeg ar ei phen ei hun fel oedolyn. Roedd hi’n helpu fi sut i ddweud beth roeddwn i eisiau dweud ar lafar. Ac felly, nes i gymryd gwersi ym Mhrifysgol Caerdydd am tua un mis.

    Wedyn nes i glywed am ap “Dweud Rhywbeth yn Gymraeg”. Ac fe wnaeth hwn newid popeth. Dw i newydd ddechre teimlo mwy hyderus pan dw i eisiau dweud rhywbeth yn y Gymraeg. Ac wrth gwrs, pan dw i eisiau siarad yn y Gymraeg dw i’n araf iawn, dw i angen meddwl lot, ac felly yn stopio eitha’ lot. Fedra i ddim cofio sut i ddweud beth dw i eisio dweud, neu sut i ddweud brawddeg cyfan.

    1. Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

    Alla i ddim dweud fy mod yn siarad Cymraeg bob dydd, achos dw i dal yn dysgu. Ond dw i’n deall pan mae pobl yn siarad o’m cwmpas. Sy’n wych!  Nawr dw i’n ymarfer ar gyfer Y Cylch Sialc gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel actores. Fedra i ddim credu beth mae’n gwneud i fi gyda’r broses! Mae pawb yn siarad Cymraeg yn yr ymarferion bob dydd wedyn mae’n ddiddorol i weld sut mae’n helpu i fi i wella. 

    1. Dy hoff beth a dy gas beth?

    Dw i’n hoffi teimlo tawelwch meddwl. Dw i’n casau teimlo pryder. 

    1. Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?

    Dw i’n mwynhau teithio gyda thrên i Ewrop. Os dw i ddim gael y cyfle, dw i’n hoffi jyst eistedd adre. 

    1. Dy hoff lyfr Cymraeg?

    Dw i ddim wedi dechre darllen llyfr yn y Gymraeg hyd yn hyn. Ond licien i ddarllen Llyfr Glas Nebo achos o’n i’n clywed bod hi’n wych a diddorol. 

    1. Dy hoff air Cymraeg?

    Hiraeth

    1. Unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

    Trio dysgu brawddeg syml, bach yn arafach siarad i pobl ac os ti’n neud camgymeriadau, jyst chwerthin. 

    1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

    Pwy all?