Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Recriwtio Tiwtoriaid

Oes diddordeb gyda chi i weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg?

  • Bob blwyddyn mae miloedd o oedolion yn mwynhau dysgu Cymraeg ac mae galw parhaus am diwtoriaid brwdfrydig ac ymroddgar i roi gwersi iddynt.

  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am y sector Dysgu Cymraeg, ac mae’n awyddus i gasglu enwau pobl sydd â diddordeb i weithio fel tiwtoriaid

Cyrsiau Dysgu Cymraeg

  • Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 darparwr i gynnal cyrsiau ledled Cymru.  Mae rhai cyrsiau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac eraill mewn dosbarthiadau rhithiol, gan ddefnyddio platfformau megis Zoom a Teams ar gyfrifiadur.  

  • Mae cyrsiau ar gael ar bum lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, ac maent yn cael eu cynnal yn ystod y dydd a gyda’r nos.  Mae’r Ganolfan wedi llunio cwricwlwm a chyrsiau cenedlaethol ac mae llu o adnoddau digidol ar gael i gefnogi dysgwyr.
Recriwtio Tiwtoriaid

Gweithio fel tiwtor

  • Mae tiwtoriaid yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan ddarparwyr y Ganolfan.  Mae tiwtoriaid newydd fel arfer yn cael cynnig un neu ddau ddosbarth i ddechrau. 
     
  • Mae profiad dysgu blaenorol yn ddelfrydol, ond nid yw’n angenrheidiol.  Mae brwdfrydedd ac ymroddiad at y Gymraeg yn hollbwysig, wrth i chi helpu dysgwyr fagu hyder i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg.

Camau nesaf

  • Mae’r Ganolfan yn awyddus i greu cronfa o enwau unigolion sydd â diddordeb i weithio fel tiwtor.  Byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r darparwyr a byddan nhw’n cysylltu’n uniongyrchol gyda chi i drafod unrhyw gyfleoedd gwaith.

  • Os dych chi eisiau hybu’r Gymraeg a chefnogi siaradwyr newydd, fel aelod o sector cyfeillgar a phroffesiynol, a wnewch chi gofnodi eich diddordeb trwy gwblhau’r ffurflen isod.

Cliciwch ar y botwm isod i weld ein hysbys.

 

Cofiwch gadw golwg am unrhyw hysbysebion swyddi ar wefannau swyddi a’r cyfryngau cymdeithasol.  Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, mae croeso i chi e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru  Mae modd cael blas ar waith ein tiwtoriaid ar y dudalen yma.