Recriwtio Tiwtoriaid
Oes diddordeb gyda chi i weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg?
- Bob blwyddyn mae miloedd o oedolion yn mwynhau dysgu Cymraeg ac mae galw parhaus am diwtoriaid brwdfrydig ac ymroddgar i roi gwersi iddynt.
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am y sector Dysgu Cymraeg, ac mae’n awyddus i gasglu enwau pobl sydd â diddordeb i weithio fel tiwtoriaid.
Cyrsiau Dysgu Cymraeg
- Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 darparwr i gynnal cyrsiau ledled Cymru. Mae rhai cyrsiau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac eraill mewn dosbarthiadau rhithiol, gan ddefnyddio platfformau megis Zoom a Teams ar gyfrifiadur.
- Mae cyrsiau ar gael ar bum lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, ac maent yn cael eu cynnal yn ystod y dydd a gyda’r nos. Mae’r Ganolfan wedi llunio cwricwlwm a chyrsiau cenedlaethol ac mae llu o adnoddau digidol ar gael i gefnogi dysgwyr.
Gweithio fel tiwtor
- Mae tiwtoriaid yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan ddarparwyr y Ganolfan. Mae tiwtoriaid newydd fel arfer yn cael cynnig un neu ddau ddosbarth i ddechrau.
- Mae profiad dysgu blaenorol yn ddelfrydol, ond nid yw’n angenrheidiol. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad at y Gymraeg yn hollbwysig, wrth i chi helpu dysgwyr fagu hyder i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Camau nesaf
- Mae’r Ganolfan yn awyddus i greu cronfa o enwau unigolion sydd â diddordeb i weithio fel tiwtor. Byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r darparwyr a byddan nhw’n cysylltu’n uniongyrchol gyda chi i drafod unrhyw gyfleoedd gwaith.
- Os dych chi eisiau hybu’r Gymraeg a chefnogi siaradwyr newydd, fel aelod o sector cyfeillgar a phroffesiynol, a wnewch chi gofnodi eich diddordeb trwy gwblhau’r ffurflen isod.
Cofiwch gadw golwg am unrhyw hysbysebion swyddi ar wefannau swyddi a’r cyfryngau cymdeithasol. Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, mae croeso i chi e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru Mae modd cael blas ar waith ein tiwtoriaid ar y dudalen yma.