Cymraeg Gwaith Addysg Bellach/Addysg Uwch
Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach
Yn dilyn llwyddiant y prosiect peilot Cymraeg Gwaith Addysg Bellach yn 2017-18, ariannwyd y cynllun eto yn 2018-19, ac mae’r cynllun wedi'i ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 hefyd. ColegauCymru sy’n cydlynu’r prosiect Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector Addysg Bellach dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bwriad y prosiect yw datblygu sgiliau Cymraeg darlithwyr mewn Colegau Addysg Bellach. Y nod yw gweithio gydag isafswm o 210 o ddarlithwyr addysg bellach ar hyd a lled Cymru gyda phob un yn cwblhau 120 awr o Gymraeg. Er diben y prosiect yma, ac er mwyn cyrraedd y nod ehangach o gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector, gofynnir bod 80% o’r rhai sy’n dilyn y prosiect yn y Colegau yn staff academaidd - felly’n ddarlithwyr neu’n aseswyr.
Mae’r cynllun yn berthnasol i bob lefel, gyda dosbarthiadau a thiwtoriaid ar gael er mwyn cynorthwyo dysgwyr newydd, yn ogystal a siaradwyr di-hyder a rhugl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. Bydd y prosiect yn amrywio o Goleg i Goleg gan fod natur y prosiect yn galluogi’r Colegau i weddu’r prosiect at eu hanghenion unigol a phenodol hwy, ond yr un yw’r nod.
Manylion Pellach
Os ydych chi’n gweithio mewn Coleg yng Nghymru, manteisiwch ar y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect yma drwy gysylltu gyda’ch tîm Adnoddau Dynol neu’ch Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn y Coleg.
Am fanylion cyffredinol, neu am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch gyda Nia Brodrick, cydlynydd prosiect yn gweithio ar ran ColegauCymru.
Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch
Mae Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch yn mynd o nerth i nerth. Eleni (2020-21) mae dros 240 o staff wedi cofrestru i dderbyn hyfforddiant i wella eu sgiliau Cymraeg trwy gyfres o wersi a gweithgareddau dysgu rhithiol.
Trwy nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyda chefnogaeth prifysgolion Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r cynllun ar gael am y bedwaredd flwyddyn o’r bron.
Mae staff mewn prifysgolion eisoes wedi elwa’n fawr o’r cynllun hwn ac yn parhau i wneud hynny. Bydd staff sy’n cwblhau’r cynllun eleni wedi cyflawni 120 awr o hyfforddiant.
Ym mhob prifysgol mae tiwtoriaid ar gael i hyfforddi staff sy’n dymuno uwchraddio eu sgiliau Cymraeg ar draws ystod o lefelau trwy gyrsiau ar-lein sydd wedi cael eu teilwra ar eu cyfer.
Trwy wella sgiliau iaith staff prifysgol, anelir at ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr a chyfoethogi eu profiad drwy hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Am ragor o wybodaeth am Gymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch mae croeso ichi gysylltu â Dr Owen Thomas (o.thomas@colegcymraeg.ac.uk), sy’n cydlynu’r cynllun ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.