Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arholiadau Cymraeg Gwaith 2023

Sut ydw i'n cofrestru?

Dyddiadau Arholiadau 2023

Beth yw'r gost?

Llyfrynnau i ymgeiswyr 2023

Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  

Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf. 

Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop. 

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2