Astudiaethau Achos

Siân Griffiths

Ffisiotherapydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Cefais fy ngeni a'm magu yn Rhosllanerchrugog, ger Wrecsam ac fe wnes i ddysgu hanfodion yr iaith Gymraeg tra oeddwn yn yr ysgol.  Symudais i Ynys Môn yn 2014 fel ffisiotherapydd hyfforddedig ac roeddwn i'n ddigon lwcus o gael gwaith yn yr ardal leol.

Er bod gen i rywfaint o Gymraeg roeddwn i'n dal i gael trafferth cyfathrebu â'm cleifion, oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.  Roedd hyn braidd yn rhwystredig i'r cleifion gan nad oeddent yn gwybod beth y dylent fod yn ei wneud. 

Penderfynais mai'r ateb gorau er mwyn i bawb fanteisio'n llawn ar y proffesiwn gofal iechyd oedd i mi ddysgu Cymraeg.

Dechreuais ddysgu Cymraeg ym mis Mawrth 2014 ac ar hyn o bryd rydw i'n astudio Cymraeg i Oedolion ar lefel uwch ym Mhrifysgol Bangor.   Mae'r tiwtoriaid Cymraeg yn wych ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn.

Rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael budd enfawr yn y gwaith ac yn y gymuned.  Mae cleifion yn deall fy mod i'n dysgu ac mae llawer ohonynt yn hapus i helpu mewn unrhyw ffordd.  Maen nhw'n ymateb yn fwy cadarnhaol i gyfarwyddiadau ac mae ganddyn nhw agwedd fwy cadarnhaol.  Mae hyn yn aml yn galluogi'r driniaeth i fod yn fwy llwyddiannus.

Rheswm arall dros ddysgu Cymraeg yw fy mod i'n bersonol yn teimlo, a minnau wedi fy ngeni a'm magu yng Nghymru, ei bod yn bwysig i mi siarad yr iaith.

 

 

Astudiaeth Achos 3

Dr Jonathan Ervine 

Uwch Ddarlithydd mewn Ffrangeg, Prifysgol Bangor

Rydw i'n hanu'n wreiddiol o Fife yn yr Alban a symudais i Ogledd Cymru i ddechrau gweithio fel Darlithydd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor, ar ôl treulio ychydig flynyddoedd yn gweithio yn Lille yn Ffrainc ac yna astudio ar gyfer PhD yn Leeds.

Ar y pryd doeddwn i ddim yn gwybod llawer am yr ardal - dim ond ei bod yn ardal lle'r oedd llawer o siaradwyr Cymraeg ac roeddwn i am ddysgu'r iaith er mwyn dod i adnabod yr ardal lle'r oeddwn i'n gweithio ac yn byw.

Gan fod cynifer o bobl Cymraeg eu hiaith yn gweithio yn y Brifysgol, mae'n bleser i mi allu siarad Cymraeg â nhw.   Rydw i hefyd yn siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd yn ogystal â gyda'm cydweithwyr, a hynny wrth addysgu, cyflwyno fy ngwaith ymchwil ac mewn cyfweliadau yn y cyfryngau.

Doedd dysgu Cymraeg ddim yn elfen orfodol o'm swydd, ond i mi, mae'r iaith Gymraeg wedi dod yn rhan bwysig o'm gwaith ym Mhrifysgol Bangor.   Mae'r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog felly mae'n gwneud synnwyr ceisio defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg.   Rydw i'n hoffi clywed a defnyddio'r iaith bron bob dydd.

Yn ogystal â bod yn fudd i mi yn fy mywyd gwaith, mae fy ngwraig a minnau hefyd yn magu ein plant i fod yn ddwyieithog.  Mae fy ngwraig yn cael gwersi Cymraeg ar hyn o bryd yn ein canolfan Cymraeg i Oedolion leol.  I ddechrau roedd yn teimlo braidd yn rhyfedd defnyddio Cymraeg gyda'n mab cyntaf gan nad oeddwn i'n defnyddio'r un math o eirfa ag yr oeddwn i gyda'm cydweithwyr a'r myfyrwyr!  Ond mae Tomos yn 4 oed erbyn hyn ac mae'n teimlo'n gwbl naturiol.

 

 

Astudiaeth Achos 2

Hayley Jones

Plismones, Heddlu Gogledd Cymru

Hayley Jones ydw i, Mam 40 mlwydd oed gyda thri o blant ac rwy'n blismones gyda Heddlu Gogledd Cymru.

Dysgais Gymraeg yn yr ysgol ac mi gefais radd A ar lefel TGAU ... .. ond dydw i heb siarad Cymraeg ers hynny!!

Rwyf bob amser yn teimlo braidd yn 'euog' o fod yn Gymraes, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, ond yn methu siarad yr iaith. Ar ôl gadael yr ysgol, dydw i heb gael cyfle i siarad Cymraeg gydag unrhyw un mewn gwirionedd, gan fod fy nheulu a’m ffrindiau i gyd yn Saesneg iaith gyntaf.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi chwarae gyda'r syniad o ailddechrau siarad yr iaith, mewn dosbarthiadau nos efallai, ond mae bywyd teuluol wedi bod mor brysur.

Ym mis Tachwedd 2015, cefais lawdriniaeth ac roedd rhaid i mi dreulio llawer o amser yn gwella cyn i mi fynd yn ôl i ddyletswyddau llawn. Gwelais hwn fel cyfle delfrydol i holi ein hadran hyfforddiant am gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle. Mynychais fy nghwrs Lefel 2 cyntaf ym mis Mai 2016 a dydw i heb edrych yn ôl ers hynny.

Deuai tiwtor i'n pencadlys ni am ddau ddiwrnod yr wythnos, dros gyfnod o ychydig o wythnosau, a rhoddodd hwb go iawn i mi, gan aildanio fy angerdd dros yr iaith. Rydym yn edrych ar y pethau sylfaenol ac mae o wedi helpu i feithrin ein hyder i roi cynnig ar ddweud pethau, bod yn ddigon dewr i wneud camgymeriadau o flaen ein gilydd mewn amgylchedd dysgu diogel. Fe wnes i fwynhau hyn gymaint fel fy mod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs lefel 3 yn ddiweddarach yn ystod yr un flwyddyn, ac rwyf ar fin dod i ddiwedd fy nghwrs Lefel 4.

Trwy fynychu’r cyrsiau hyn, rwyf nid yn unig wedi adeiladu ar fy ngwybodaeth am yr iaith Gymraeg ond hefyd wedi ennill hyder i geisio siarad Cymraeg gyda fy nheulu yn ddyddiol. Rwy’n bell o fod yn rhugl, ond rwy’n ceisio’n galed i ymarfer cymaint ag y gallaf. Rwyf yn gobeithio dechrau mynychu nosweithiau cymdeithasol i ddysgwyr Cymraeg lleol sy'n cael eu cynnal yn wythnosol ger fy nghartref.

Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg yn y Gweithle a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd angen hwb i roi cynnig arni.

 

 

Cymraeg Gwaith

Michael Palmer

Cyfarwyddwr yn Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Cefais fy ngeni a fy magu yn Solihull ger Birmingham. Mi wnes i benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl i mi gyfarfod fy ngwraig. Roedd ei thad yn frodor o Lithfaen ym Mhen Llŷn ac yn frwd dros y Gymraeg. Felly meddyliais y byddai'n llawer gwell i mi ennill iaith yn hytrach na'r teulu yn gorfod siarad Saesneg efo fi.

Ond mae cael eich ysgogi yn un peth, mae medru dilyn ymlaen a gweithredu yn fater arall. Yn hyn o beth roedd mynd yn ôl i astudio am radd yn allweddol.

Cefais gyfle i fynd ar gwrs Wlpan am wyth wythnos yn ystod y gwyliau Haf yn fy mlwyddyn gyntaf, gyda'r Brifysgol yn talu am gost y dysgu a chostau byw.

'Dwi'n ymwybodol iawn pa mor freintiedig oeddwn i, nid yn unig i gael y cyfle, ond hefyd i gael criw gwych o diwtoriaid fel Cefin Campbell a Carolyn Iorwerth.

Roedd eu gallu arbennig i ddysgu'r iaith yn cyd-fynd â brwdfrydedd, ac yr egni yn wyrthiol.

Fel rhywun nad oedd wedi cael hwyl arni o gwbl wrth geisio dysgu Sbaeneg yn yr ysgol, roedd dull Wlpan yn agoriad llygaid ac yn agoriad i'r meddwl. Dim gramadeg, dim ysgrifennu, dim ond gwrando, talu sylw ac ail adrodd.

Erbyn i fi fynd yn ôl i'r coleg yn yr Hydref, 'roeddwn yn gallu cynnal sgwrs syml efo'r myfyrwyr Cymraeg oedd yn fy nabod (ac oedd yn ddigon clên ac amyneddgar i roi i fyny efo fi yn gwneud traed moch o'u hiaith).

(Diolch i Cymru Fyw, BBC Cymru)

 

 

 

 

 

 

 

Astudiaeth Achos