Cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith
Mae cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith yn ôl ar gyfer 2021! Dyma gyrsiau codi hyder wedi eu cyllido'n llawn a'u cyflwyno yn rhithiol dan ofal tiwtoriaid profiadol. Yn ychwanegol i'r sesiynau gyda thiwtor, bydd elfennau hunan-astudio newydd.
Mae cyrsiau ar lefelau Canolradd, Uwch, neu Hyfedredd ar gael yn ystod blwyddyn 2021-22 Cymraeg Gwaith. Cynhelir y cyrsiau rhithiol dros 5 niwrnod, gyda thiwtor yn arwain, ac elfennau o hunan-astudio ar-lein i'w dilyn rhwng y sesiynau byw. Bydd dyddiadau Ebrill 2021-Mawrth 2022 ar gael yma yn fuan.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r darparwr, Nant Gwrtheyrn:
cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org





