Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau dysgu gyda thiwtor

Cyrsiau cydamserol wyneb i wyneb neu rhithiol
Gwybodaeth am y cyrsiau

Rydym yn gallu darparu cyrsiau wythnosol wyneb i wyneb neu rithiol dan arweiniad Tiwtor.

Mae’r cyrsiau hyn wedi eu cyllido’n llawn, ac ar gael i chi fel cyflogwr ar unrhyw lefel dysgu Cymraeg, sef:

 

  • Mynediad
  • Sylfaen
  • Canolradd
  • Uwch
  • Gloywi
Camau nesaf

Er mwyn sefydlu cwrs mewn gweithle, mae angen rhwng 8 – 15 aelod o staff ar yr un lefel, ac ymrwymiad y cyflogwr i’w rhyddhau am 2 awr neu fwy'r wythnos hyd at o leiaf 120 awr o ddysgu (sef lefel gyfan).

Bydd angen i chi ddweud wrthym ni beth yw eich anghenion, mae hyn yn cynnwys:

  • Lefel y dysgu
  • Dyddiad ac amser hwylus i bawb fynychu'r cwrs yn wythnosol

Rydym hefyd yn gallu teilwra'r cyrsiau at swyddi a’r sefydliad penodol.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru

Cymraeg Gwaith - Cwrs Dwys / Work Welsh - Intensive Course