Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwrs Hunan-astudio Cymraeg Gwaith

Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl ar-lein.
Cwrs Hunan-astudio

Mae’r cwrs hunan-astudio Cymraeg Gwaith yn gwrs a ddysgir yn gyfan gwbl ar-lein. Mae’r cynnwys ieithyddol a’r patrymau iaith a addysgir yn gyson â chyrsiau prif ffrwd cenedlaethol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Fodd bynnag, darperir rhestr eirfa wahanol ar gyfer unedau Cymraeg Gwaith gan fod yr unedau wedi’u cyd-destunoli i’r gweithle. Gall yr dysgwyr ddewis dilyn cwrs hunan-astudio De Cymru neu gwrs hunan-astudio Gogledd Cymru.

Mae’r unedau ar-lein yn gyfwerth ag oddeutu 2 awr o hunan-astudio, a darperir tasgau cyfeiriol a phrofiadau eraill i’r dysgwyr gyflawni yn ychwanegol er mwyn ehangu ar eu profiad o ddysgu Cymraeg.

Mwy o wybodaeth

Caiff yr unedau eu gosod ar blatfform y Ganolfan ac unwaith i ddysgwr gofrestru ar gwrs hunan-astudio caiff fynediad at y cwrs o’r adran ‘Fy Nysgu’. Unwaith i’r cwrs ddechrau, caiff 3 uned eu rhyddhau bob 3 wythnos, a nodir disgwyliad i’r dysgwyr gwblhau 1 uned yr wythnos.

Bydd pob dysgwr yn derbyn Pecyn Croeso cyn dechrau’r cwrs, gyda gwybodaeth am gynnwys y cwrs, a’r gefnogaeth ychwanegol gan diwtor a fydd ar gael.

Trosolwg o’r Gefnogaeth Tiwtor

Mae cefnogaeth tiwtor i’r cyrsiau hunan-astudio yn cael ei gynnig i bob dysgwr sy’n cofrestru, sy’n cynnwys:

  • Cyfeiriad e-bost i anfon cwestiynau ieithyddol neu ymholiadau at diwtor.
  • Cyfle i gwrdd â thiwtor yn fyw yn rhithiol am gefnogaeth yn dilyn unrhyw ymholiad.
  • Sesiynau adolygu byw, wythnosol yn adolygu 3 uned ar y tro.
  • Cyfle i sgwrsio’n anffurfiol â dysgwyr eraill.
  • Adborth ar dasgau a gyflwynwyd i’r platfform

Mae'r cwrs ar gael ar y cwrs Lefel Mynediad a Sylfaen

Mae'r cwrs lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr, a'r rhai sy'n dymuno dechrau gyda'r hanfodion. Does dim angen unrhyw Gymraeg i ddechrau ar y lefel yma. Erbyn diwedd y cwrs Mynediad, bydd dysgwyr yn gallu:

-Deall ymadroddion syml o ddydd i ddydd, a'u defnyddio;

-Cyflwyno eu hunain, ac eraill, yn gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth sylfaenol, e.e. lle mae rhywun yn gweithio;

-Sôn am beth mae nhw’n hoffi;

-Dweud beth wnaethon nhw a lle aethon nhw yn y gorffennol, a gofyn/dweud beth wnaeth eraill a lle aeth eraill;

-Dweud beth sydd ganddyn nhw, a gofyn/dweud beth sydd gan eraill;

-Dweud beth oedd ganddyn nhw, a gofyn/dweud beth oedd gan eraill;

-Sôn am yr hyn yr oedden nhw ac eraill yn arfer ei wneud;

-Deall testunau byr lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth sylfaenol amdanynt eu hunain neu eraill, e.e. ar ffurflenni;

-Trosglwyddo neges syml neu wneud cais sylfaenol, e.e. drwy e-bost.

 

Gall staff ymuno â'r cwrs hwn fel dilyniant o'r cwrs hunan-astudio Mynediad neu o gwrs wyneb yn wyneb â thiwtor.

Erbyn diwedd y cwrs Sylfaen, bydd dysgwyr yn gallu:

-Adolygu lefel Mynediad;

-Dysgu sut i ofyn cwestiynau ac ateb cwestiynau yn y gweithle gan gynnwys cyfweliadau;

-Gofyn ac ateb cwestiynau yn y presennol a’r dyfodol yn y person cyntaf ac am eraill;

-Ysgrifennu a deall negeseuon, e.e. e-byst, hysbysebion.

-Mynegi barn mewn gwahanol sefyllfaoedd bob dydd;

-Dysgu sut i fynegi bwriad a’r gallu i wneud rhywbeth;

-Cynnig gwneud rhywbeth neu ofyn cymwynas;

-Gofyn am ganiatâd a rhoi caniatâd;

-Trafod cyfnodau o amser, dyddiadau a sut i drefnu digwyddiadau yn y gweithle;

-Rhoi cyfarwyddiadau;

-Disgrifio a chymharu pethau, cydweithwyr, cwsmeriaid a phobl yn gyffredinol.

I gofrestru ar y cwrs yma, cysylltwch gyda y Tîm Cymraeg Gwaith: cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru