Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2021: Dysgwr lefel Mynediad sy'n gwneud y Defnydd Gorau o'r Gymraeg ar bwrpas Gwaith

 

ENILLYDD: Matt Nash, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Grŵp Llandrillo-Menai)

 

Mae Matt yn awyddus iawn i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei fywyd bob dydd yn ogystal ag yn y gweithle. Mae wedi gwneud cynnydd arbennig ac yn gallu cynnal sgwrs sylweddol a heriol yn y Gymraeg erbyn hyn. Cymerodd ran blaenllaw mewn noson gymdeithasol ‘Hwyl yr Ŵyl’ gan ganu carol heriol yn y Gymraeg – roedd pawb yn dweud mai dyma oedd uchafbwynt y noson. Mae parodrwydd Matt i berfformio yn y Gymraeg i gynulleidfa fawr ar Zoom yn ysbrydoliaeth i gydweithwyr, ac mae’n haeddu clod am ymroi i ddefnyddi’r Gymraeg yn ei fywyd proffesiynol.

Matt Nash

Clod Uchel: Gavin Price, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Caerdydd a’r Fro)

Mae Gavin bellach yn ei ail flwyddyn o ddysgu Cymraeg drwy’r Cynllun Cymraeg Gwaith. Mae wedi gwneud cynnydd anhygoel, ac yn cymryd mantais o bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chydweithwyr.

Clod Uchel: Richard Littleton, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Caerdydd a’r Fro)

Mae Richard yn gwneud ymdrech amlwg i roi llais a phresenoldeb i’r iaith Gymraeg mewn addysg bellach yng Nghymru, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn aml.