Cwrs hunanastudio newydd ar gyfer Athrawon
Crynodeb
Mae’r cwrs hunan-astudio Cymraeg Gwaith i Athrawon ar Lefel Mynediad yn gwrs a ddysgir yn gyfan gwbl ar-lein am gyfanswm o 120 awr. Mae’r cynnwys ieithyddol a’r patrymau iaith a addysgir yn gyson â chyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol yn ogystal â chyrsiau prif ffrwd cenedlaethol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae cynnwys y cwrs wedi ei gyd-destunoli yn llwyr ar gyfer gweithle’r ysgol a dyletswyddau dyddiol athrawon. Mae’n addas ar gyfer athrawon cynradd neu uwchradd y sector cyfrwng Saesneg sydd ag ychydig iawn o wybodaeth o’r Gymraeg. Dechreuir drwy ganolbwyntio ar sut i ynganu yn Gymraeg cyn symud ymlaen at batrymau y gellid eu hymgorffori i’w gwersi dyddiol. Erbyn diwedd y cwrs, bydd yr athrawon yn gallu cyfathrebu ar lefel syml yn y Gymraeg a bydd ganddynt ddealltwriaeth o eirfa allweddol eu maes dysgu yn y Gymraeg hefyd. Bydd ganddynt ymwybyddieth o strategaethau a methodolegau dysgu iaith fel y gallan nhw nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn eu gwersi gyda’r dysgwyr.
Yn ychwanegol at yr elfen hunan-astudio, disgwylir i’r ymarferwyr fynychu un sesiwn fyw yr wythnos ar-lein. Yn y sesiynau byw, bydd cyfle iddyn nhw ymarfer patrymau’r unedau gydag ymarferwyr eraill a bydd tiwtor yn bresennol i arwain y sesiwn. Ond yn bennaf oll, dyma lle bydd yr athrawon yn dysgu am fethodolegau dysgu iaith ac yn cael syniadau am sut i gynnwys y Gymraeg yn effeithiol yn drawsgwricwlaidd yn eu gwersi. Bydd cefnogaeth tiwtor ar gael i’r ymarferwyr dros e-bost drwy gydol eu hamser ar y cwrs. Gall y dysgwyr ddewis dilyn cwrs hunan-astudio De Cymru neu gwrs hunan-astudio Gogledd Cymru.