Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Adnabod yr awdur, Alun Ffred

Adnabod yr awdur, Alun Ffred

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, enillodd Alun Ffred wobr am y nofel orau - Gwobr Goffa Daniel Owen.  Enw ei nofel ydy ‘Gwynt y Dwyrain’ a stori dditectif ydy hi.  Dyma ei nofel gyntaf.

Mae Alun Ffred wedi ymddeol erbyn hyn, ond roedd yn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ac yn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru.  Cyn hynny, roedd yn sgriptio a chyfarwyddo rhaglenni teledu, gan gynnwys y gyfres boblogaidd C’mon Midffild.

Ble dych chi’n byw ac o ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Dw i’n byw yn Nyffryn Nantlle, ardal y chwareli llechi, ger pentref Llanllyfni.

Ces i fy ngeni ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, pentref y pyllau glo ar y pryd ond tyfu i fyny yn Llanuwchllyn ger Llyn Tegid ym Meirionnydd.

Oeddech chi’n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?

Ro’n i’n hoffi ysgrifennu straeon hir yn Saesneg ond wnes i ddim ennill cystadlaethau ar ôl 11 oed.  Ond ro’n i’n darllen drwy’r amser (gan gynnwys Ffrangeg ar boteli sôs brown HP!).

Oeddech chi wedi cystadlu gyda gwaith ysgrifenedig o’r blaen?

Ychydig iawn, iawn o gystadlu wnes i erioed.  Wnes i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol amser maith yn ôl - ond nid ar nofel - a chael fy rhoi yn y trydydd dosbarth.  A dw i’n siŵr bod y beirniad yn iawn!

Beth sy'n eich ysbrydoli i sgwennu?

Darnau sy’n dweud barn neu ddarnau ffeithiol bydda i yn eu hysgrifennu fel arfer. Mae pob math o bethau yn tanio’r awydd; gwleidyddiaeth, pobol, llyfrau, chwaraeon.  Unrhyw beth a dweud y gwir.

Faint o’r gloch dych chi’n sgwennu fel arfer?

Y peth pwysicaf yw cael llonydd, felly mae’r bore yn well na’r nos.  Ac mae’r meddwl yn fwy effro.  Ond dw i ddim yn dda iawn am godi yn y bore!

Beth fasai eich cyngor i rywun sy eisiau dechrau sgwennu'n greadigol?

Does dim rhaid i chi wneud cwrs ysgrifennu, ond mae cwrs yn eich atgoffa o rai pethau pwysig fel cymeriadu, plot ac yn y blaen.

Oes na unrhyw lyfrau ar y gweill?

Nac oes ond mae syniadau yn fy mhen.  Yn anffodus dydyn nhw’n da i ddim yn y fan honno!

Geirfa

Aelod o’r Senedd – Member of the Senedd                                                                                             

Gweinidog Treftadaeth – Minister for Heritage

cyfarwyddo – director

chwareli llechi – slate mines

pyllau glo – coal mines

cystadlu – compete

beirniad - adjudicator

barn – opinion

tanio’r awydd – ignite the desire to write

gwleidyddiaeth - politics

llonydd – peace and quiet

cymeriadu – characterisation

ar y gweill – planned/in the pipeline

da i ddim – no good