Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Adnabod yr awdur, Siôn Tomos Owen

Adnabod yr awdur, Siôn Tomos Owen

Mae Siôn Tomos Owen yn cyflwyno ar y radio a’r teledu, ac yn awdur, artist a bardd.  Mae’n dod o ardal y Rhondda yn ne Cymru.  Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r ardal yn 2024.

Mae Siôn yn un o awduron llyfrau Amdani.  Enw ei lyfr cyntaf ydy ‘Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda’.  Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o straeon am y Rhondda.  Ar hyn o bryd, mae’n ysgrifennu ei ail lyfr i ddysgwyr, ‘Y Fawr a’r Fach 2’.

Ble dych chi'n byw ac o ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Ges i fy magu ar fferm o’r enw Bwthyn Glyncolli yn Nhreorci, Rhondda Fawr lle mae mam a dad yn dal i fyw.  

Dw i’n byw yn Nhreorci o hyd, ond erbyn hyn, dw i’n byw ‘downtown’ mewn tŷ teras ar y stryd fawr.

Oeddech chi'n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?

Dw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu, creu straeon a barddoniaeth.  Dw i’n cofio cael cyntaf am ysgrifennu ym mhapur bro Y Gloran pan ro’n i’n wyth oed ac enillais i 68c.  

Beth sy'n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Mae’r rhan fwyaf o bethau dw i’n ysgrifennu amdanyn nhw wedi digwydd i mi, neu yn ardal y Cymoedd.  Roedd pethau oedd yn fy ngwneud i’n grac ond erbyn hyn, hiwmor yw beth dw i’n ysgrifennu fwyaf.

Pa adeg o'r dydd dych chi’n ysgrifennu fel arfer?

Dw i’n gwbl hopeless yn y bore – dw i’n methu gwneud unrhyw beth heb fyfyrio, cael brechdan bacon a double espresso a mynd am dro bach.  Wedyn, bydda i’n dechrau gweithio tua 10 y bore.  

Gyda’r llyfr ‘Y Fawr a’r Fach 1’, ro’n i’n dechrau ysgrifennu tua 9 y nos.  Yna, ro’n i’n rhoi’r stori i fy ngwraig ei darllen (mae hi wedi dysgu Cymraeg i lefel Sylfaen) ac os oedd hi’n ei ddeall, ro’n i’n rhoi tic ar fy rhestr ac yn symud ymlaen i’r stori nesaf.  

Mi wnes i ysgrifennu’r 18 stori fel hyn rhwng mis Ionawr a Chwefror 2018.

Beth fasai eich cyngor i rywun sydd awydd dechrau ysgrifennu'n greadigol?

Darllenwch lot, dyna’r peth cyntaf.  Llyfrau o bob math - mae gan bob awdur ffordd wahanol o ysgrifennu.

A ysgrifennwch i chi eich hun, nid i bobl eraill.  Os dych chi’n mwynhau darllen eich gwaith, bydd pobl eraill yn ei fwynhau hefyd.  

Un o’r pethau anoddaf, ond pwysicaf, yw gofyn i bobl eraill roi barn onest am eich gwaith.

Oes na unrhyw lyfrau ar y gweill neu’n cael eu cyhoeddi yn 2024?

Bydd fy ail lyfr i ddysgwyr, ‘Y Fawr a'r Fach 2’, yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn yma!  

Mae gen i ychydig ar ôl i ysgrifennu ond y gobaith yw y bydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.

Dw i hefyd yn gweithio ar un prosiect llyfr cudd ac yn tincro gyda fy nghasgliad cyntaf o gerddi Cymraeg ond does dim dyddiad cyhoeddi i’r rhain eto.

At beth dych chi'n edrych ymlaen fwyaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

I ddechrau, y ffaith fy mod i’n gallu mynd i’r Maes bob dydd ond cysgu yn fy ngwely cyfforddus adref!!  

Dw i wir yn disgwyl mlaen i wylio cymaint o fandiau ag y gallaf.

Mae gen i ambell ddigwyddiad ar y Maes a rhai ym Mhontypridd; straeon, comedi, canu.

Dw i hefyd yn gweithio ar arddangosfa o waith celf Elwyn Thomas - un o fy hoff artistiaid o'r Rhondda.

Geirfa

awdur - author

bardd – poet

magu – grew up

ysbrydoli – inspire

crac – angry

myfyrio – meditate

cyhoeddi – publish

llyfr cudd – secret book

tincro – tinkering

casgliad – collection

dyddiad cyhoeddi – publication date

arddangosfa - exhibition