Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfleoedd dysgu Cymraeg newydd i ddarlithwyr

Cyfleoedd dysgu Cymraeg newydd i ddarlithwyr

Cyfle i ddarlithwyr hogi sgiliau Cymraeg
ar ddechrau tymor academaidd newydd

Wrth i fyfyrwyr baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, bydd cyfle i ddarlithwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch gryfhau eu sgiliau hefyd, trwy ddilyn rhaglen o gyrsiau Cymraeg newydd.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mewn partneriaeth â CholegauCymru/Fforwm Services Ltd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r rhaglen yn rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Genedlaethol, sy’n cynnig hyfforddiant hyblyg ar gyfer gweithleoedd.  Bydd yn cael ei chynnal rhwng Medi 2017 – Mawrth 2018, gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Bydd ColegauCymru/Fforwm Services Ltd yn rheoli’r rhaglen yn y sector Addysg Bellach.  Bydd oddeutu 200 o staff sy’n gweithio mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys Gofal Plant, Hamdden a Thwristiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau, yn dilyn y rhaglen.

Yn y sector Addysg Uwch, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rheoli’r rhaglen, gan ddarparu hyfforddiant dwys dros gyfnod o 20 wythnos i dros 100 o staff ar draws wyth o brifysgolion.

Mae’r rhaglen yn ateb anghenion hyfforddiant Cymraeg y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch trwy gynnig hyfforddiant yn y gweithle.  Bydd tiwtoriaid wedi’u lleoli mewn sefydliadau a bydd staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer hyfforddiant yn ystod y diwrnod gwaith.

Ochr-yn-ochr â’r rhaglen addysgu, bydd system fentora yn cael ei sefydlu, i gysylltu siaradwyr newydd â siaradwyr mwy profiadol.  Ar ddiwedd y rhaglen, bydd yn bosib i ddysgwyr barhau i astudio trwy ddilyn cyrsiau prif ffrwd y Ganolfan Genedlaethol, sydd ar gael mewn cymunedau ledled Cymru.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Dyma gyfle gwych i unigolion sy’n gweithio yn y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch i gryfhau eu sgiliau Cymraeg a magu hyder i ddefnyddio’r iaith.  Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal mewn gweithleoedd, ar amseroedd cyfleus i staff.

“Mae’r rhaglen hyfforddi hon, sy’n rhan o’n cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, yn enghraifft o sut mae modd teilwra hyfforddiant Cymraeg ar gyfer gwahanol sectorau.”

Meddai Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru/Fforwm Services Ltd:

“Mae’r rhaglen hyfforddiant hon yn gyfle i ddechrau gwneud gwir wahaniaeth i sgiliau iaith a hyder ein staff dysgu.  Bydd y cynllun yn fodd o gymhwyso ein staff dysgu gyda’r sgiliau dysgu dwyieithog hanfodol fydd yn cryfhau’r cynnig Cymraeg/dwyieithog i’n dysgwyr Addysg Bellach.  Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cynllun buddiol yma.”

Meddai Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r Ganolfan Genedlaethol ar y prosiect hwn i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector Addysg Uwch.  Bydd y rhaglen yn galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd da mewn cyfnod byr a rhoi eu sgiliau newydd ar waith yn y gweithle a thu hwnt.” 

Diwedd

19.9.17

 

Disgrifiad llun (isod)

Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Karen Davies, Darlithydd Gofal Plant, Coleg Caerdydd a’r Fro, Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Catherine Palmer, Darlithydd Triniaethau Amgen, Coleg Caerdydd a’r Fro, Nicola Buttle, Cydlynydd Cwricwlwm Cymraeg Coleg Caerdydd a’r Fro, ac Alison Grainger, Darlithydd Gofal Plant, Coleg Caerdydd a’r Fro.

Bydd Karen, Catherine ac Alison yn dilyn hyfforddiant Cymraeg fel rhan o’r cynllun newydd.

 

Efa a darlithwyr Coleg Caerdydd a'r Fro