Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darganfod y drws i’r Gymuned Gymraeg

Darganfod y drws i’r Gymuned Gymraeg

Dyma hanes criw o ddysgwyr yn Southgate, Penrhyn Gŵyr sy wedi cael eu derbyn i’r gymuned Gymraeg.  Rob Evans o Abertawe sy’n dweud yr hanes wrthon ni.

Felly dywedwch yr hanes o’r dechrau.

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd dysgwyr o Southgate, pentref ar y Gŵyr, yn poeni bod eu cwrs dosbarth nos yn dod i ben a’u cyfle i siarad Cymraeg yn dod i ben hefyd.

Do’n nhw ddim yn hapus am hyn. Ro’n nhw wedi bod yn gweithio mor galed ond heb ddarganfod y drws i mewn i’r gymuned Gymraeg. Oedd cymuned Gymraeg yn Southgate hyd yn oed? Ar y wyneb roedd y pentref yn hollol Seisnig.

Penderfynon nhw ddod at ei gilydd i ffurfio grŵp. Roedd perchennog y caffi lleol yn gefnogol i’r Gymraeg, a’i blant yn mynd i’r ysgol Gymraeg leol. Roedd e’n hapus iawn i’r dysgwyr gael cornel o’r caffi ar gyfer cyfarfod.

Yn y caffi, roedd pobl leol yn eu clywed nhw’n siarad Cymraeg ac, er syndod i’r dysgwyr, roedd rhai yn siaradwyr Cymraeg. Roedd y siaradwyr Cymraeg yn dod atyn nhw i siarad, yn Gymraeg wrth gwrs.

Yn fuan iawn, fe gawson nhw wahoddiad i fynd i’r Gymdeithas Gymraeg yn Llandeilo Ferwallt a chael croeso mawr!  Ac o hynny ymlaen, maen nhw wedi bod yn aelodau selog.

Mae hyn yn swnio yn syniad gwych – felly nawr maen nhw wedi dod o hyd i siaradwyr Cymraeg eraill yn yr ardal?

Ydyn. Wrth wneud rhywbeth mor syml â sefydlu grŵp mewn caffi, ro’n nhw wedi dod ar draws y drws i’r gymuned Gymraeg. Ers hynny, nid dysgwyr ydyn nhw ond siaradwyr Cymraeg newydd.

Dych chi yn meddwl basai hyn yn gweithio mewn ardaloedd eraill o Gymru?

Dw i’n meddwl basai’n hawdd iawn efelychu llwyddiant dysgwyr Southgate. Nid dim ond mewn un neu ddau o lefydd ond dros Gymru gyfan.

Mae deg mlynedd gyda ni tan y cyfrifiad nesaf a chyfle i wneud gwahaniaeth mawr. Bydd cyfrifiad 2031 yn dangos ein llwyddiant ac yn neges i bawb bod yr iaith Gymraeg, nid yn unig yn fyw, ond yn fywiog ac yn ffynnu.

A beth fydd y cam nesaf i siaradwyr newydd Southgate?

Does dim rheswm pam na all y grŵp ddechrau grwpiau diddordeb eraill fel:

  • Grŵp cerdded
  • Grŵp darllen
  • Grŵp hanes – mae dysgwyr ardal papur bro Ogwr wedi dechrauu grŵp hanes llwyddiannus sydd ar agor i holl siaradwyr Cymraeg yr ardal.
  • Unrhyw fath o grŵp dan haul.

 

Diolch yn fawr Rob am rannu hanes clwb cynnal Southgate gyda ni.

Gweddill Cymru – does dim byd i’w golli....Ewch amdani!

 

Geirfa

Penrhyn Gwyn – Gower Peninsula

dod i ben – coming to an end

darganfod – to discover

cymuned Gymraeg – Welsh speaking community

Ar y wyneb – on the surface

cefnogol – supportive

er syndod – to their surprise

gwahoddiad – invitation

aelodau selog – regular members

efelychu – to emulate

cyfrifiad – census

llwyddiant  -success

ffynnu – thrive