Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dydd Miwsig Cymru 2021

Dydd Miwsig Cymru 2021

Cofiwch am Ddydd Miwsig Cymru 5 Chwefror 2021!

5 Chwefror 2021 yw Dydd Miwsig Cymru, diwrnod i ddathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg – o fiwsig pync ac indi i fiwsig gwerin a phop. Mae cerddoriaeth ar gael yn Gymraeg at ddant pawb. Os hoffech chi chwilio a dysgu mwy am gerddoriaeth Gymraeg beth am ddilyn @miwsig ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd ddilyn #dyddmiwsigcymru neu #miwsig.

Dysgu Cymraeg a Dydd Miwsig Cymru

Mae’n bwysig i ddysgwyr y Gymraeg gael mwynhau a phrofi cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. I nifer o ddysgwyr mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg wedi eu hysbrydoli i ddysgu’r iaith. Beth am ddarllen hanes Lars o’r Almaen a oedd yn mwynhau cerddoriaeth y Super Furry Animals?

Ymunwch â ni yn 2021!

Cofiwch y dyddiad - 5 Chwefror!

Cyflwynodd criw o ddysgwyr ar draws Cymru gyfan eu hoff ganeuon Cymraeg ar raglen radio arbennig ar Cymru FM am 12.00pm ar 5 Chwefror. Gallwch wrando yn ôl ar y rhaglen ar wefan Cymru FM yma.

Bydd gyda ni hefyd bodlediad newydd sbon gyda’r canwr a’r cyflwynydd Rhys Meirion yn cael sgwrs gyda Rhiannon Norfolk, sy’n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, ac sy’n hyfforddi i fod yn diwtor.

Mae’r ddau’n sgwrsio am gerddoriaeth, yr iaith Gymraeg, am eu bywyd, eu gwaith a’u diddordebau. Mae'r podlediad ar gael ar Apple Podcast, Spotify a Deezer. 

Dydd Miwsig Cymru