Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Elinor - un o sêr ymgyrch recriwtio’r haf

Elinor - un o sêr ymgyrch recriwtio’r haf

Mae Elinor Parsons, sy’n dilyn cwrs Perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o sêr ymgyrch recriwtio ddiweddara’r Ganolfan.  Gwyliwch hysbyseb Elinor yma.

O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol a beth yw dy gefndir di?
Yn wreiddiol dw i’n dod o Sain Tathan, sef ddim yn rhy bell o’r Barri. Mae fy mam a fy nhad yn dod o Gymru.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
I fod yn onest, wnaeth fy mam a fy nhad penderfynu fy mod i fynd i ddysgu Cymraeg pan oeddwn i’n fach, felly es i i ysgol Gymraeg. Dw i mor falch am ein penderfyniad nhw achos dw i’n DWLI siarad yr iaith!

Sut/ble wnest ti ddysgu?
Dysgais i Gymraeg yn Ysgol Gynradd Iolo Morganwg yn y Bont-faen, ond symudais i i Ysgol Gyfun y Bont-faen (sef Ysgol Saesneg) felly collais peth o fy Nghymraeg.  Er hynny, roedd yr athrawon Cymraeg yn yr ysgol yn fy nghefnogi ac yn fy annog i ddal ati efo’r iaith. 

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Pan oeddwn i’n fach roeddwn i’n defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, Eisteddfodau a gyda fy chwaer. Doeddwn i ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn siarad yr iaith! Wel, am naïf!  Ers i fi dyfu i fyny dw i wedi cael y profiad arbennig o gael fy nerbyn ar y cwrs BA Perfformio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd. Nawr dw i’n defnyddio’r iaith Gymraeg bob dydd! Mae llawer o fy ffrindiau ar y cwrs o lefydd gwahanol o Gymru felly dw i nawr yn falch i ddweud fy mod i hyd yn oed yn deall iaith y Gogs! 

Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth am siarad Cymraeg ydy cyfathrebu gyda phobl eraill trwy iaith ein gwlad. Hefyd, dw i’n canu mewn band fy ffrind, sef Mari Mathias, ac os o’n i ddim yn siarad yr iaith, byddwn i wedi colli allan! Dw i wedi darganfod bod llawer mwy o gyfleoedd ar agor i mi achos dw i’n siarad yr iaith. Er enghraifft, creu ffrindiau, addysg a swyddi cofiadwy.

Pwy sydd wedi ysbrydoli ti yn dy fywyd?
Yn ddiweddar mae Eve Myles wedi fy ysbrydoli i achos dysgodd hi y Gymraeg ar gyfer y rhaglen Un Bore Mercher, felly os ydy hi yn gallu neud e mewn cyfnod bach o amser mae unrhyw un yn gallu! Hefyd, dw i’n dal i ddysgu bob dydd felly dw i’n caru gwylio rhaglenni fel Un Bore Mercher i gryfhau safon fy Nghymraeg.

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n joio gwneud fideos Hansh gydag S4C ar themâu gwahanol a dw i’n lico chwistrellu bach o gomedi ynddyn nhw. Hefyd dw i’n hoff o ganu a dw i’n cefnogi Mari Mathias gan ganu backing vocals i hi.

Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
‘Perygl yn Sbaen’ gan Bob Eynon oherwydd mae’n llyfr i ddysgwyr ac ar y dudalen flaen mae llun o botel o win ac arian, felly ces i fy nhynnu i’r lyfr yma!

Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Dibynadwy.

Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?                      
Ymarfer yr iaith efo pawb ti’n gallu! Mynd i’r siop a dwedwch ‘diolch’ a ‘croeso’ a bydd hi’n dechre dod yn haws! Peidiwch â theimlo’n rhy swil i siarad yr iaith. Mae hi’n brydferth ac yn haeddu fwy o bobl yn ei siarad hi.

Disgrifia dy hun mewn tri gair
Diofal, penderfynol a BONCYRS!