Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwers gyfoes newydd yn seiliedig ar ddrama 'Y Tad' gan Theatr Genedlaethol Cymru

Gwers gyfoes newydd yn seiliedig ar ddrama 'Y Tad' gan Theatr Genedlaethol Cymru

Mae gwers gyfoes newydd wedi ei chreu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gael blas ar gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Y Tad’.

Trosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o ‘Le Père’ gan Florian Zeller yw’r ddrama a dyma oedd enillydd y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Enillodd y ddrama wreiddiol Wobr Molière yn 2014 am y ddrama orau.

Mae’r wers ar gyfer dysgwyr lefel ‘Uwch’ yn cynnwys cyfweliadau fideo gydag Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, a Catrin Mara, sy’n actio yn y ddrama.  Bydd cyfle i edrych ar ddarn o’r sgript a thrafod un o themâu’r ddrama, dementia.

Yn ystod y perfformiadau, bydd yn bosibl, hefyd, defnyddio ap ‘Sibrwd’ y Theatr Genedlaethol, sy’n cynnig crynodeb Saesneg byw ar gyfer y di-Gymraeg a’r rheiny sy’n dysgu.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant cyfoes yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg. Dyna pam mae’r Ganolfan Genedlaethol yn cydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae gwers fel hon i helpu dysgwyr fwynhau cynyrchiadau yn agor drws arall i’n dysgwyr ni.”

Mae’r Theatr Genedlaethol, gyda chefnogaeth Pontio, Canolfan Garth Olwg, Theatr y Sherman a Theatr Felinfach, hefyd yn cefnogi cynllun peilot newydd y Ganolfan Genedlaethol, sef ‘Siarad’.  Nod Siarad yw dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd, fel bod dysgwyr yn gallu ymarfer siarad y Gymraeg.  Bydd gostyngiad o 10% ar bris tocyn yn y lleoliadau uchod i unrhyw un sy’n rhan o’r cynllun.

Meddai Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru, “Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn bod gwers gyfoes fel hon yn cael ei chreu yn seiliedig ar Y Tad. Bydd y wers yn ffordd o ddenu dysgwyr at fyd y ddrama Gymraeg. Bydd hefyd yn rhoi cyd-destun i’r cynhyrchiad, yn cyfoethogi eu profiad o’r theatr, ac yn eu hannog i ymwneud â diwylliant Cymru y tu allan i’r dosbarth.”

Mae’r daith yn cychwyn yn Pontio, Bangor ar 21 Chwefror. Am restr lawn o’r perfformiadau ewch i www.theatr.cymru 

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts, Prif Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru neu 01970 621565.