Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Shân Cothi

Holi Shân Cothi

Mae Shân Cothi yn cyflwyno rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru bob bore Llun-Gwener ar BBC Radio Cymru. Mae wythnos nesaf (10-17 Hydref) yn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg Radio Cymru a bydd Shân yn siarad gyda nifer o ddysgwyr diddorol yn ystod yr wythnos. Beth am ddysgu mwy amdani hi?

Beth yw dy ddiddordebau?

Marchogaeth, seiclo a darllen

Dy hoff fwydydd?

Cawl Cothi! Taflu popeth mewn - a lasagne a stecen! 

Dy uchelgais?

Cael perfformio mewn theatr lawn eto! 

Un peth doniol sydd wedi digwydd i ti.

Fe wnes i lwyddo i fethu ateb neges destun gan Syr Bryn Terfel yn gofyn i fi berfformio rhan Mrs Lovett yn ‘Sweeney Todd’ gyda fe ar lwyfan Tŷ Opera Zurich o fewn 48 awr! Ges i’r neges yn diwedd a do fe wnes i berfformio! 

Dy noson ddelfrydol?

Cynnau tân agored a chael swper cartref blasus mewn golau canwyll gyda’r cŵn, a heb anghofio cael cwtsh!

Pwy fyddet ti’n hoffi cael pryd o fwyd gydag e/hi a pham?

Madame Patti - y ganotores opera a gafodd yrfa anhygoel . Dwi’n dwli ar hanes Craig y Nos.

Dy hoff gân Gymraeg?

Mae’n anodd dewis achoss ma sawl un dwi’n ei charu, o ganeuon i emyn donau.  Dwi wrth fy modd gyda ‘O Gymru’ gn Rhys Jones.

Dy wyliau gorau erioed. 
Unrhyw wyliau sgïo - lot o atgofion ac uchafbwyntiau o wyliau i’r Alpau a Whistler. 

Dy hoff air Cymraeg?

Pendwmpian neu hiraeth 

Cyngor neu neges i ddysgwyr y Gymraeg? 

Dyfal donc a dyrr y garreg . Cadwch i wrando ar Bore Cothi a BBC Radio Cymru. Diolch am fod yn ffyddlon!