Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lluniau o Batagonia gan ddarlunydd o Gymru yn hwb i ddysgwyr Cymraeg

Lluniau o Batagonia gan ddarlunydd o Gymru yn hwb i ddysgwyr Cymraeg

Mae cyfres o ddarluniau gwreiddiol o’r Cymry cyntaf a ymfudodd i Batagonia yn 1865 wedi ei chreu yn arbennig ar gyfer cwrs cenedlaethol newydd ar gyfer dysgwyr profiadol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yr arlunydd Helen Flook, sy’n byw yn Abergwyngregyn, Gwynedd, sydd wedi mynd ati i ddarlunio’r lluniau sy’n adlewyrchu’r profiadau a’r sialensiau a wynebodd y Cymry cyntaf hynny yn y Wladfa.

Mae’r chwe darlun inc acrylig yn dangos gwahanol olygfeydd – y fordaith  o Lerpwl ar long y Mimosa; cyrraedd a thrin y tir er mwyn dyfrhau’r caeau a thyfu cnydau, a’r broses o ddatblygu cymuned Gymraeg.

Taith y Mimosa
Cymuned Gymraeg

Rhai o’r lluniau a grëwyd gan Helen Flook ar gyfer y cwrs newydd

Arddangosfa yn y Gaiman

Cynhaliwyd arddangosfa o’r lluniau gwreiddiol mewn dathliad yn nhref y Gaiman, Patagonia ar ddiwedd mis Medi.  Dyma adroddiad gan Irupé Meza White, disgybl ym Mlwyddyn 5 Ysgol Uwchradd Camwy, o’r diwrnod:

Roeddwn i wedi agor y sioe gyda help Sinead Harries, ac roedd fy ffrindiau o Goleg Camwy wedi esbonio tipyn bach am beth roedd pob llun yn dangos a gwnaeth Tedy gloi’r arddangosfa ar y diwedd. Roedd y lle yn llawn dop, a’r rhan fwyaf yn siarad Cymraeg. Mwynheais i yn fawr iawn. Ar ôl darllen ac edrych ar y lluniau, cawsom ni luniaeth ysgafn o bop, empanadas a brechdanau - blasus iawn!

Irupé Meza White
dathliad

Dathliad o’r darluniau newydd yng nghaffi ‘Meraki’ yn y Gaiman