Beth am dreulio penwythnos gyda’r teulu yng ngorllewin Cymru?
Dewch i Wersyll yr Urdd Llangrannog i ymarfer eich Cymraeg ac i gymdeithasu. Bydd gwahanol weithgareddau ar gael, o nofio i gerdded llwybr yr arfordir. Bydd gwersi Cymraeg hefyd ar gael. Y dyddiad cau yw 28 Ionawr 2017.